RHAN 2SWYDDOGAETHAU CYFFREDINOL

Trefniadau lleol

F114ACynlluniau yn dilyn asesiadau o anghenion o dan adran 14

(1)

Yn yr adran hon, ystyr “corff perthnasol” yw awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol sydd wedi cynnal asesiad ar y cyd o dan adran 14(1).

(2)

Rhaid i bob corff perthnasol baratoi a chyhoeddi cynllun sy’n nodi—

(a)

ystod a lefel y gwasanaethau y mae’r corff yn bwriadu eu darparu, neu drefnu i’w darparu, mewn ymateb i’r asesiad o anghenion o dan baragraffau (a) i (c) o adran 14(1);

(b)

yn achos awdurdod lleol, ystod a lefel y gwasanaethau y mae’r awdurdod yn bwriadu eu darparu, neu drefnu i’w darparu, wrth geisio sicrhau’r dibenion yn adran 15(2) (gwasanaethau ataliol);

(c)

yn achos Bwrdd Iechyd Lleol, unrhyw beth y mae’r Bwrdd yn bwriadu ei wneud mewn cysylltiad â’i ddyletswydd o dan adran 15(5) (Byrddau Iechyd Lleol i roi sylw i bwysigrwydd camau ataliol wrth arfer swyddogaethau);

(d)

sut y mae’r gwasanaethau a nodir yn y cynllun i gael eu darparu, gan gynnwys y gweithredoedd y mae’r corff yn bwriadu eu cymryd i ddarparu, neu drefnu i ddarparu, y gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg;

(e)

unrhyw weithredoedd eraill y mae’r corff yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r asesiad o dan adran 14(1);

(f)

manylion unrhyw beth y mae’r corff yn bwriadu ei wneud mewn ymateb i’r asesiad ar y cyd â chorff perthnasol arall;

(g)

yr adnoddau sydd i’w neilltuo wrth wneud y pethau a nodir yn y cynllun.

(3)

Caniateir i gynllun corff perthnasol gael ei gyhoeddi drwy ei gynnwys o fewn cynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 neu 44(5) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”) gan fwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae’r corff yn aelod ohono.

(4)

Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol sydd wedi cynnal asesiad ar y cyd gyda’i gilydd o dan adran 14(1) baratoi a chyhoeddi cynllun ar y cyd o dan is-adran (2).

(5)

Caiff dau awdurdod lleol neu ragor baratoi a chyhoeddi cynllun ar y cyd o dan is-adran (2); ond ni chaniateir i gynllun ar y cyd o’r fath gael ei gyhoeddi drwy ei gynnwys o fewn cynllun llesiant lleol onid yw pob awdurdod lleol yn aelod o’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (gweler adrannau 47 a 49 o Ddeddf 2015 (uno byrddau gwasanaethau cyhoeddus)).

(6)

Rhaid i gorff perthnasol gyflwyno’r canlynol i Weinidogion Cymru—

(a)

unrhyw ran o gynllun a baratowyd ganddo o dan is-adran (2) sy’n ymwneud ag iechyd a llesiant gofalwyr;

(b)

unrhyw ran arall o gynllun o’r fath y caniateir ei ragnodi drwy reoliadau.

(7)

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch cynlluniau a baratoir ac a gyhoeddir o dan is-adran (2), gan gynnwys darpariaeth—

(a)

sy’n pennu pryd y mae cynllun i gael ei gyhoeddi;

(b)

ynghylch adolygu cynllun;

(c)

ynghylch ymgynghori â phersonau wrth baratoi neu adolygu cynllun;

(d)

ynghylch monitro a gwerthuso gwasanaethau a gweithredoedd eraill a nodir mewn cynllun.