Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

[F1149CFfioeddLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth i awdurdod lleol dalu ffi mewn cysylltiad ag adolygiad o dan adran 149B(1).

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth—

(a)sy’n pennu swm unrhyw ffi neu sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru benderfynu ar swm unrhyw ffi (yn ddarostyngedig i unrhyw derfynau neu ffactorau eraill a bennir yn y rheoliadau);

(b)sy’n pennu’r amser ar gyfer talu ffi neu sy’n pennu ffactorau y mae Gweinidogion Cymru i benderfynu ar yr amser hwnnw yn unol â hwy.]