xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Diwygiadau Testunol
F1Aau. 149A-149D ac croes-benawd wedi eu mewnosod (29.4.2019) gan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (anaw 2), aau. 57(1), 188(1); O.S. 2019/864, ergl. 2(3)(c)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru adolygu—
(a)astudiaethau ac ymchwil a wneir gan eraill mewn perthynas ag arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yng Nghymru,
(b)y dulliau a ddefnyddir mewn astudiaethau ac ymchwil o’r fath, ac
(c)dilysrwydd casgliadau astudiaethau ac ymchwil o’r fath.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)llunio a chyhoeddi adroddiad ar adolygiad a gynhelir o dan is-adran (1), a
(b)gosod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.]