Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

[F1149AAdolygiadau o astudiaethau ac ymchwilLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru adolygu—

(a)astudiaethau ac ymchwil a wneir gan eraill mewn perthynas ag arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yng Nghymru,

(b)y dulliau a ddefnyddir mewn astudiaethau ac ymchwil o’r fath, ac

(c)dilysrwydd casgliadau astudiaethau ac ymchwil o’r fath.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)llunio a chyhoeddi adroddiad ar adolygiad a gynhelir o dan is-adran (1), a

(b)gosod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.]