RHAN 8SWYDDOGAETHAU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

Codau

147Gwyro oddi wrth ofynion mewn codau

1

Pan fo’r adran hon yn gymwys i ofyniad mewn cod (gweler adran 145(4)), caiff awdurdod lleol arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn ffordd nad yw’n cydymffurfio â’r gofyniad i’r graddau—

a

y mae’r awdurdod yn credu bod rheswm da iddo beidio â chydymffurfio â’r gofyniad mewn categorïau penodol o achosion neu i beidio â gwneud hynny o gwbl,

b

y mae’n penderfynu ar bolisi amgen ar gyfer arfer ei swyddogaethau mewn cysylltiad â phwnc y gofyniad, ac

c

y mae datganiad polisi a ddyroddwyd gan yr awdurdod yn unol ag adran 148 yn weithredol.

2

Pan fo paragraffau (a) i (c) yn is-adran (1) yn gymwys—

a

rhaid i’r awdurdod ddilyn y llwybr sydd wedi ei nodi yn y datganiad polisi, a

b

nid yw’r awdurdod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd i gydymffurfio â’r gofyniad yn y cod ond i’r graddau nad yw pwnc y gofyniad wedi ei ddisodli gan y datganiad polisi.

3

Nid yw’r ddyletswydd i gydymffurfio â gofyniad mewn cod ymarfer neu i ddilyn y llwybr a bennir mewn datganiad polisi yn gymwys i awdurdod lleol i’r graddau y byddai’n afresymol i’r awdurdod ddilyn y cod neu’r datganiad polisi mewn achos penodol neu gategori o achos.