RHAN 8SWYDDOGAETHAU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL
Awdurdodau lleol
F1144BAdroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad leol
(1)
Rhaid i awdurdod lleol lunio a chyhoeddi adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad leol ar unrhyw adegau a ragnodir drwy reoliadau.
(2)
Rhaid i adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad leol gynnwys—
(a)
asesiad o—
(i)
digonolrwydd y ddarpariaeth o ofal a chymorth yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod unrhyw gyfnod a ragnodir drwy reoliadau;
(ii)
y graddau y darparwyd gwasanaethau rheoleiddiedig yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod y cyfnod rhagnodedig hwnnw gan ddarparwyr gwasanaethau y mae adran 61 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (asesu cynaliadwyedd ariannol darparwr gwasanaeth gan Weinidogion Cymru) yn gymwys iddynt;
(iii)
unrhyw fater arall sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth o wasanaethau rheoleiddiedig yn ardal yr awdurdod lleol a ragnodir drwy reoliadau;
(iv)
effaith comisiynu unrhyw wasanaethau gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol ar arferiad y swyddogaethau hynny yn ystod unrhyw gyfnod a ragnodir drwy reoliadau;
(b)
adroddiad ar unrhyw gamau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol yn ystod y cyfnod a ragnodir o dan baragraff (a)(i) yn unol â’i ddyletswydd o dan adran 189(2) (dyletswydd dros dro i ddiwallu anghenion yn achos methiant darparwr).
(3)
Rhaid i adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad leol fod ar ffurf a ragnodir drwy reoliadau.
(4)
Wrth lunio adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad leol, rhaid i awdurdod lleol—
(a)
ystyried—
(i)
yr asesiad y mae wedi ei gyhoeddi’n ddiweddaraf o dan adran 14 (asesiadau o anghenion), a
(ii)
y cynllun y mae wedi ei gyhoeddi’n ddiweddaraf o dan adran 14A ar ôl yr asesiad, a
(b)
ymgynghori â phob Bwrdd Iechyd Lleol y cynhaliodd yr asesiad gydag ef.
(5)
Rhaid i awdurdod lleol anfon copi o adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad leol a gyhoeddwyd at Weinidogion Cymru.
(6)
Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (2)(a)(iii) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.
(7)
Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i reoliadau—
(a)
sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr is-adran honno, a
(b)
nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.
(8)
Yn yr adran hon—
(a)
mae i “darparwr gwasanaeth” yr ystyr a roddir gan adran o 3(1)(c) Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
(b)
mae i “gwasanaeth rheoleiddiedig” yr ystyr a roddir gan adran 2(1) o’r Ddeddf honno.