[F1144AAdroddiadau blynyddolLL+C
(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn ariannol, rhaid i awdurdod lleol lunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol ynghylch arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno.
(2)Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys—
(a)manylion am sut y mae’r awdurdod wedi arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn ariannol, gan gynnwys manylion am y graddau y mae’r awdurdod wedi—
(i)gweithredu yn unol â gofynion a osodir ar awdurdodau lleol gan god a ddyroddir o dan adran 9 (codau ar gyfer helpu i sicrhau canlyniadau mewn perthynas â llesiant),
(ii)gweithredu yn unol ag unrhyw ofynion perthnasol sydd wedi eu cynnwys mewn cod a ddyroddir o dan adran 145 (codau ynghylch arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol), a
(iii)rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol mewn cod a ddyroddir o dan adran 145, a
(b)unrhyw wybodaeth arall a ragnodir drwy reoliadau.
(3)Rhaid i’r manylion a ddarperir o dan is-adran (2)(a)(ii) ddatgan sut y mae’r awrdurdod wedi bodloni unrhyw ofynion a gynhwysir mewn cod sy’n ymwneud ag asesu anghenion unigolyn yn unol â Rhan 3 a diwallu anghenion o dan Ran 4.
(4)Rhaid i adroddiad blynyddol fod ar ffurf a ragnodir drwy reoliadau.
(5)Rhaid i awdurdod lleol anfon copi o adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd at Weinidogion Cymru.
(6)Yn yr adran hon, ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ebrill ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.]
Diwygiadau Testunol
F1Aau. 144A-144C wedi eu mewnosod (4.9.2017 er mewnosodiad a. 144A, 29.4.2019 er mewnosodiad a. 144C) gan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (anaw 2), aau. 56(1), 188(1); O.S. 2017/846, ergl. 2(a); O.S. 2019/864, ergl. 2(3)(b)