RHAN 8SWYDDOGAETHAU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL
Awdurdodau lleol
F1144AAdroddiadau blynyddol
(1)
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn ariannol, rhaid i awdurdod lleol lunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol ynghylch arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno.
(2)
Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys—
(a)
manylion am sut y mae’r awdurdod wedi arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn ariannol, gan gynnwys manylion am y graddau y mae’r awdurdod wedi—
(i)
gweithredu yn unol â gofynion a osodir ar awdurdodau lleol gan god a ddyroddir o dan adran 9 (codau ar gyfer helpu i sicrhau canlyniadau mewn perthynas â llesiant),
(ii)
gweithredu yn unol ag unrhyw ofynion perthnasol sydd wedi eu cynnwys mewn cod a ddyroddir o dan adran 145 (codau ynghylch arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol), a
(iii)
rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol mewn cod a ddyroddir o dan adran 145, a
(b)
unrhyw wybodaeth arall a ragnodir drwy reoliadau.
(3)
Rhaid i’r manylion a ddarperir o dan is-adran (2)(a)(ii) ddatgan sut y mae’r awrdurdod wedi bodloni unrhyw ofynion a gynhwysir mewn cod sy’n ymwneud ag asesu anghenion unigolyn yn unol â Rhan 3 a diwallu anghenion o dan Ran 4.
(4)
Rhaid i adroddiad blynyddol fod ar ffurf a ragnodir drwy reoliadau.
(5)
Rhaid i awdurdod lleol anfon copi o adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd at Weinidogion Cymru.
(6)
Yn yr adran hon, ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ebrill ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.