Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

144Cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i awdurdod lleol benodi swyddog, a elwir yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, at ddibenion swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod hwnnw.

(2)Ni chaniateir i awdurdod lleol benodi person yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol iddo oni bai ei fod yn fodlon bod y person hwnnw wedi dangos y cymwyseddau a bennwyd gan Weinidogion Cymru.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r cymwyseddau at ddiben is-adran (2) mewn cod a ddyroddir o dan adran 145 neu mewn rheoliadau.

(4)Caiff dau neu fwy o awdurdodau lleol, os ydynt o’r farn y gall yr un person gyflawni’n effeithiol, ar gyfer y ddau neu bob un ohonynt, swyddogaethau cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, benodi un person yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer y ddau awdurdod hynny neu ar gyfer pob un ohonynt.

(5)Rhaid i awdurdod lleol sydd wedi penodi, neu sydd wedi penodi ar y cyd, berson o dan yr adran hon sicrhau bod staff digonol yn cael eu darparu at ddibenion ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol er mwyn cynorthwyo’r cyfarwyddwr.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 144 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 144 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)