xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 7LL+CDIOGELU

Byrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu OedolionLL+C

140Byrddau Diogelu CyfunLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddarparu bod y Bwrdd Diogelu Plant a’r Bwrdd Diogelu Oedolion ym mhob ardal Bwrdd Diogelu i uno i greu un Bwrdd Diogelu ar gyfer yr ardal (“Bwrdd Diogelu Plant ac Oedolion”).

(2)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—

(a)diwygio unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon o ganlyniad i greu un Bwrdd Diogelu Plant ac Oedolion ar gyfer pob ardal Bwrdd Diogelu, a

(b)gwneud darpariaethau canlyniadol eraill gan gynnwys diwygio unrhyw ddeddfiad arall (pa bryd bynnag y bydd wedi ei basio neu ei wneud).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 140 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 140 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)