RHAN 7DIOGELU

Byrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu Oedolion

140Byrddau Diogelu Cyfun

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddarparu bod y Bwrdd Diogelu Plant a’r Bwrdd Diogelu Oedolion ym mhob ardal Bwrdd Diogelu i uno i greu un Bwrdd Diogelu ar gyfer yr ardal (“Bwrdd Diogelu Plant ac Oedolion”).

(2)

Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—

(a)

diwygio unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon o ganlyniad i greu un Bwrdd Diogelu Plant ac Oedolion ar gyfer pob ardal Bwrdd Diogelu, a

(b)

gwneud darpariaethau canlyniadol eraill gan gynnwys diwygio unrhyw ddeddfiad arall (pa bryd bynnag y bydd wedi ei basio neu ei wneud).