RHAN 2SWYDDOGAETHAU CYFFREDINOL
Trefniadau lleol
14Asesu anghenion am ofal a chymorth, cymorth i ofalwyr a gwasanaethau ataliol
(1)
Rhaid i awdurdod lleol a phob Bwrdd Iechyd Lleol y mae unrhyw ran o’i ardal o fewn ardal yr awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, asesu ar y cyd—
(a)
i ba raddau y mae pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth yn ardal yr awdurdod lleol;
(b)
i ba raddau y mae yna ofalwyr yn ardal yr awdurdod lleol y mae angen cymorth arnynt;
(c)
i ba raddau y mae yna bobl yn ardal yr awdurdod lleol nad yw eu hanghenion am ofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, eu hanghenion am gymorth) yn cael eu diwallu (gan yr awdurdod, y Bwrdd neu fel arall);
(d)
ystod a lefel y gwasanaethau y mae eu hangen i ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl yn ardal yr awdurdod lleol (gan gynnwys anghenion gofalwyr am gymorth);
(e)
ystod a lefel y gwasanaethau y mae eu hangen i sicrhau’r dibenion yn adran 15(2) (gwasanaethau ataliol) yn ardal yr awdurdod lleol;
(f)
y camau y mae angen eu cymryd i ddarparu’r ystod a’r lefel o wasanaethau a nodir yn unol â pharagraffau (d) ac (e) drwy gyfrwng y Gymraeg.
(2)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), er enghraifft, ddarparu ar gyfer amseru ac adolygu asesiadau.
F1(3)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F1(4)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .