RHAN 7DIOGELU

Byrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu Oedolion

138Cyllido Byrddau Diogelu

(1)

Caiff partner Bwrdd Diogelu wneud taliadau tuag at wariant a dynnir gan y Bwrdd Diogelu, neu at ddibenion sy’n gysylltiedig â’r Bwrdd Diogelu, y mae’r partner wedi ei gynrychioli arno—

(a)

drwy wneud y taliadau’n uniongyrchol, neu

(b)

drwy gyfrannu at gronfa y caniateir i’r taliadau gael eu gwneud ohoni.

(2)

Caiff partner Bwrdd Diogelu ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau, llety neu adnoddau eraill at ddibenion sy’n gysylltiedig â’r Bwrdd Diogelu y mae’r partner wedi ei gynrychioli arno.

(3)

Caiff rheoliadau—

(a)

ei gwneud yn ofynnol bod taliadau’n cael eu gwneud gan bartner Bwrdd Diogelu tuag at wariant a dynnir gan y Bwrdd Diogelu, neu at ddibenion sy’n gysylltiedig â’r Bwrdd Diogelu, y mae’r partner wedi ei gynrychioli arno, a

(b)

darparu ar gyfer sut y mae swm y taliadau hynny i’w ddyfarnu mewn cysylltiad â chyfnod penodedig.

(4)

Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3) sy’n ei gwneud yn ofynnol bod taliadau yn cael eu gwneud gan bartner Bwrdd Diogelu a grybwyllwyd yn adran 134(2)(b), (e) neu (f).