RHAN 7DIOGELU

Byrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu Oedolion

137Cyflenwi gwybodaeth ar gais Byrddau Diogelu

(1)

Caiff Bwrdd Diogelu, at ddibenion galluogi neu gynorthwyo’r Bwrdd i gyflawni ei swyddogaethau, ofyn i berson neu gorff cymhwysol gyflenwi gwybodaeth benodedig y mae is-adran (2) neu (3) yn gymwys iddi—

(a)

i’r Bwrdd, neu

(b)

i berson neu gorff a bennir gan y Bwrdd.

(2)

Mae’r is-adran hon yn gymwys i wybodaeth sy’n ymwneud â’r canlynol—

(a)

y person neu’r corff cymhwysol y gwneir cais iddo,

(b)

swyddogaeth neu weithgaredd y person neu’r corff cymhwysol hwnnw, neu

(c)

person y mae swyddogaeth yn arferadwy mewn cysylltiad ag ef, neu weithgaredd yr ymgymerir ag ef, gan y person neu’r corff cymhwysol hwnnw.

(3)

Mae’r is-adran hon yn gymwys i wybodaeth—

(a)

sydd wedi ei chyflenwi i’r person neu’r corff cymhwysol yn unol â chais arall o dan yr adran hon, neu

(b)

sydd wedi ei deillio o wybodaeth a gyflenwyd yn y modd hwnnw.

(4)

Rhaid i’r person neu’r corff cymhwysol y gwneir cais iddo o dan is-adran (1) gydymffurfio â’r cais oni bai bod y person neu’r corff o’r farn y byddai gwneud hynny—

(a)

yn anghydnaws â dyletswyddau’r person neu’r corff, neu

(b)

fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer swyddogaethau’r person neu’r corff.

(5)

Rhaid i berson neu gorff cymhwysol sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (1) roi i’r Bwrdd Diogelu a wnaeth y cais resymau ysgrifenedig dros y penderfyniad.

(6)

Ni chaiff gwybodaeth a gyflenwir o dan yr adran hon gael ei defnyddio ond gan y Bwrdd neu berson neu gorff arall y caiff ei chyflenwi iddo at y diben a grybwyllwyd yn is-adran (1).

(7)

Yn yr adran hon—

ystyr “penodedig” ac “a bennir” (“specified”) yw wedi ei bennu mewn cais a wneir o dan is-adran (1);

ystyr “person neu gorff cymhwysol” (“qualifying person or body”) yw person neu gorff y mae ei swyddogaethau neu ei weithgareddau yn cael eu hystyried gan y Bwrdd yn rhai sy’n golygu bod y person neu’r corff yn debygol o feddu ar wybodaeth sy’n berthnasol i arfer un o swyddogaethau’r Bwrdd.