RHAN 7DIOGELU

Byrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu Oedolion

136Byrddau Diogelu: cynlluniau ac adroddiadau blynyddol

(1)

Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol rhaid i Fwrdd Diogelu gyhoeddi cynllun (ei “gynllun blynyddol”) yn nodi ei gynigion ar gyfer cyflawni ei amcanion yn y flwyddyn honno.

(2)

Erbyn 31 Gorffennaf bob blwyddyn fan bellaf, rhaid i Fwrdd Diogelu gyhoeddi adroddiad ynghylch—

(a)

sut y mae wedi arfer ei swyddogaethau yn y flwyddyn ariannol flaenorol, a

(b)

i ba raddau y mae wedi gweithredu’r cynigion yn ei gynllun blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol.

(3)

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch gwneud cynlluniau a llunio adroddiadau o dan yr adran hon (gan gynnwys darpariaeth ynghylch eu ffurf a’u cynnwys a sut dylid eu cyhoeddi).

(4)

Yn yr adran hon ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r deuddeng mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.