RHAN 7DIOGELU

Byrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu Oedolion

135Swyddogaethau a gweithdrefnau Byrddau Diogelu

(1)

Amcanion Bwrdd Diogelu Plant yw—

(a)

amddiffyn plant o fewn ei ardal sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, eu cam-drin, eu hesgeuluso, neu ddioddef mathau eraill o niwed, a

(b)

atal plant o fewn ei ardal rhag dod yn rhai sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed.

(2)

Amcanion Bwrdd Diogelu Oedolion yw—

(a)

amddiffyn oedolion o fewn ei ardal—

(i)

y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw awdurdod lleol yn diwallu unrhyw un neu rai o’r anghenion hynny ai peidio), a

(ii)

sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, eu cam-drin neu eu hesgeuluso, a

(b)

atal yr oedolion hynny o fewn ei ardal y soniwyd amdanynt ym mharagraff (a)(i) rhag dod yn rhai sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

(3)

Rhaid i Fwrdd Diogelu geisio sicrhau ei amcanion drwy gydgysylltu’r hyn a wneir gan bob person neu gorff a gynrychiolir ar y Bwrdd a gwneud yn siŵr ei fod yn effeithiol.

(4)

Rhaid i reoliadau—

(a)

darparu i Fwrdd Diogelu gael swyddogaethau sy’n ymwneud â’i amcanion (gan gynnwys, er enghraifft, swyddogaethau adolygu neu ymchwilio);

(b)

gwneud darpariaeth ynghylch y gweithdrefnau sydd i’w dilyn gan Fwrdd Diogelu;

(c)

pennu pryd a sut y mae’n rhaid i blant neu oedolion y mae swyddogaethau Bwrdd Diogelu yn effeithio arnynt, neu y gallent effeithio arnynt gael cyfle i gymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd.

(5)

Caiff Bwrdd Diogelu gydweithredu ag un neu fwy o Fyrddau Diogelu eraill.

(6)

Caiff Bwrdd Diogelu weithredu ar y cyd ag un neu fwy o Fyrddau Diogelu eraill mewn perthynas â’u hardaloedd cyfun ac os byddant yn gwneud hynny—

(a)

mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at Fwrdd Diogelu i’w darllen fel cyfeiriadau at y Byrddau sy’n gweithredu ar y cyd, a

(b)

mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at ardal Bwrdd Diogelu i’w darllen fel cyfeiriadau at yr ardal gyfun.

(7)

Caiff y Bwrdd Diogelu Plant a’r Bwrdd Diogelu Oedolion ar gyfer ardal ffurfio cyd-fwrdd ar gyfer yr ardal, ac os ydynt yn gwneud hynny—

(a)

mae’r cyd-fwrdd i gael yr amcanion yn is-adrannau (1) a (2), a

(b)

mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at Fwrdd Diogelu i’w darllen fel cyfeiriadau at y cyd-fwrdd.