RHAN 7DIOGELU

Byrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu Oedolion

134Byrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu Oedolion

(1)

Rhaid i reoliadau nodi’r ardaloedd hynny yng Nghymru (“ardaloedd Byrddau Diogelu”) y bydd Byrddau Diogelu ar eu cyfer.

(2)

Mae pob un o’r canlynol yn bartner Bwrdd Diogelu mewn perthynas ag ardal Bwrdd Diogelu—

(a)

yr awdurdod lleol dros ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal Bwrdd Diogelu;

(b)

prif swyddog yr heddlu ar gyfer ardal heddlu y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal Bwrdd Diogelu;

(c)

Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal Bwrdd Diogelu;

(d)

F1Ymddiriedolaeth GIG sy’n darparu gwasanaethau yn yr ardal Bwrdd Diogelu;

(e)

yr Ysgrifennydd Gwladol i’r graddau y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn cyflawni swyddogaethau o dan adrannau 2 a 3 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 o ran Cymru;

(f)

unrhyw ddarparwr gwasanaethau prawf y mae’n ofynnol iddo gan drefniadau o dan adran 3(2) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 weithredu fel partner Bwrdd Diogelu mewn perthynas â’r ardal Bwrdd Diogelu.

(3)

Ar ôl ymgynghori â’r partneriaid Bwrdd Diogelu ar gyfer ardal, rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu—

(a)

partner Bwrdd Diogelu fel y partner arweiniol ar gyfer yr ardal mewn perthynas â phlant, a

(b)

partner Bwrdd Diogelu fel y partner arweiniol ar gyfer yr ardal mewn perthynas ag oedolion.

(4)

Rhaid i’r partner arweiniol mewn perthynas â phlant sefydlu Bwrdd Diogelu Plant ar gyfer ei ardal Bwrdd Diogelu.

(5)

Rhaid i’r partner arweiniol mewn perthynas ag oedolion sefydlu Bwrdd Diogelu Oedolion ar gyfer ei ardal Bwrdd Diogelu.

(6)

Rhaid i Fwrdd Diogelu gynnwys—

(a)

cynrychiolydd i bob partner Bwrdd Diogelu a grybwyllwyd yn is-adran (2) mewn perthynas ag ardal y Bwrdd Diogelu, a

(b)

cynrychiolydd unrhyw berson neu gynrychiolydd i gorff arall a bennir mewn rheoliadau fel partner Bwrdd Diogelu mewn perthynas ag ardal y Bwrdd Diogelu.

(7)

Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (6)(b) bennu person neu gorff fel partner Bwrdd Diogelu ond os yw’r person neu’r corff hwnnw yn arfer swyddogaethau o dan ddeddfiad mewn perthynas â phlant yng Nghymru neu, yn ôl y digwydd, oedolion yng Nghymru.

(8)

Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (6)(b) bennu un o Weinidogion y F2 Goron, llywodraethwr carchar neu ganolfan hyfforddi ddiogel (neu, yn achos carchar sydd wedi ei gontractio allan neu ganolfan hyfforddi ddiogel sydd wedi ei chontractio allan, y cyfarwyddwr) F3na phennaeth coleg diogel fel partner Bwrdd Diogelu oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio.

(9)

Caiff Bwrdd Diogelu gynnwys cynrychiolwyr unrhyw bersonau neu gyrff eraill, a’r rheini’n bersonau neu’n gyrff a grybwyllir yn is-adran (10), y mae’r Bwrdd o’r farn y dylent gael eu cynrychioli arno.

(10)

Mae’r personau neu’r cyrff hynny’n bersonau ac yn gyrff o unrhyw natur sy’n arfer swyddogaethau neu sy’n ymgymryd â gweithgareddau sy’n ymwneud â phlant neu oedolion (yn ôl y digwydd) yn yr ardal Bwrdd Diogelu o dan sylw.

(11)

Yn yr adran hon—

(a)

mae cyfeiriad at garchar yn cynnwys sefydliad troseddwyr ifanc;

(b)

mae i gyfeiriad at ganolfan hyfforddi ddiogel wedi ei chontractio allan yr ystyr a roddir i “contracted out secure training centre” gan adran 15 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994;

(c)

mae i gyfeiriad at garchar sydd wedi ei gontractio allan yr ystyr a roddir i “contracted out prison” gan adran 84(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991.