RHAN 7DIOGELU
Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol
133Rheoliadau am y Bwrdd Cenedlaethol
(1)
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach am y Bwrdd Cenedlaethol.
(2)
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddarparu, er enghraifft, ar gyfer y canlynol—
(a)
cyfansoddiad ac aelodaeth y Bwrdd Cenedlaethol (gan gynnwys darpariaeth ynghylch telerau penodi, anghymhwyso, ymddiswyddo, atal neu symud aelodau o’u swydd);
(b)
y tâl a’r lwfansau sydd i’w talu i aelodau;
(c)
trafodion y Bwrdd Cenedlaethol;
(d)
bod y Bwrdd Cenedlaethol yn ymgynghori â’r rhai y gallai trefniadau i ddiogelu oedolion a phlant yng Nghymru effeithio arnynt;
(e)
ffurf, cynnwys ac amseriad adroddiadau’r Bwrdd Cenedlaethol;
(f)
cyhoeddi adroddiadau’r Bwrdd Cenedlaethol.
(3)
Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon ddarparu i Weinidog y Goron fod yn aelod o’r Bwrdd Cenedlaethol.