RHAN 7DIOGELU

Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol

132Y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol

(1)

Bydd bwrdd o’r enw’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “y Bwrdd Cenedlaethol”).

(2)

Dyletswyddau’r Bwrdd Cenedlaethol yw—

(a)

rhoi cymorth a chyngor i Fyrddau Diogelu gyda golwg ar sicrhau eu bod yn effeithiol,

(b)

cyflwyno adroddiadau am ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru, ac

(c)

gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch sut y gellid gwella’r trefniadau hynny.

(3)

O ran y Bwrdd Cenedlaethol—

(a)

rhaid iddo gyflwyno adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru,

(b)

rhaid iddo gyflwyno unrhyw adroddiadau eraill i Weinidogion Cymru y byddant yn eu mynnu, ac

(c)

caiff gyflwyno unrhyw adroddiadau eraill y gwêl yn dda.