RHAN 7DIOGELU
Canllawiau
131Canllawiau ynghylch oedolion sy’n wynebu risg a phlant sy’n wynebu risg
1
Rhaid i’r canlynol, wrth arfer eu swyddogaethau o dan adrannau 126 i 128 a 130, roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddynt at y diben gan Weinidogion Cymru—
a
awdurdod lleol;
b
person sy’n swyddog awdurdodedig at ddibenion adran 127;
c
cwnstabl neu berson penodedig arall sydd gyda swyddog awdurdodedig yn unol â gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn a wneir o dan adran 127;
d
person sy’n bartner perthnasol at ddibenion adran 128 neu 130.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol cyn rhoi canllawiau o dan is-adran (1).