RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

F1Awdurdodaeth a gweithdrefn

125B.Rheolau llys

(1)

Caiff awdurdod sydd â’r pŵer i wneud rheolau llys wneud unrhyw ddarpariaeth ar gyfer rhoi effaith i—

(a)

y Rhan hon, neu

(b)

darpariaethau unrhyw offeryn statudol a wneir o dan y Rhan hon,

yr ymddengys i’r awdurdod hwnnw ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus.

(2)

Mae adran 93 o Ddeddf Plant 1989 (rheolau llys) yn gymwys i reolau a wneir yn unol â’r adran hon fel y mae’n gymwys i reolau a wneir yn unol â’r adran honno.

Caiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth—

(a)

mewn cysylltiad â’r weithdrefn sydd i’w dilyn mewn unrhyw achos perthnasol (gan gynnwys y modd y mae unrhyw gais i gael ei wneud neu y mae achos arall i gael ei ddechrau);

(b)

o ran y personau sydd â hawlogaeth i gymryd rhan mewn unrhyw achos perthnasol, p’un ai fel partïon i’r achos neu drwy gael y cyfle i gyflwyno sylwadau i’r llys;

(c)

i blant gael eu cynrychioli ar wahân mewn achos perthnasol;

(d)

o ran y dogfennau a’r wybodaeth sydd i’w darparu, a’r hysbysiadau sydd i’w rhoi, mewn cysylltiad ag unrhyw achos perthnasol;

(e)

mewn cysylltiad â gwrandawiadau rhagarweiniol;

(f)

sy’n galluogi’r llys, o dan unrhyw amgylchiad a ragnodir, i barhau ag unrhyw gais er nad yw hysbysiad o’r achos wedi ei roi i’r ymatebydd.

(3)

Yn is-adran (2)—

ystyr “a ragnodir” (“prescribed”) yw wedi ei ragnodi gan y rheolau;

ystyr “achos perthnasol” (“relevant proceedings”) yw unrhyw gais a wneir, neu achos a ddygir, o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (1) ac unrhyw ran o achos o’r fath; ac

ystyr “hysbysiad o achos” (“notice of proceedings”) yw gwŷs neu unrhyw hysbysiad arall o achos sy’n ofynnol; ac ystyr “rhoi” (“given”), mewn perthynas â gwŷs, yw “cyflwyno” (“served”).

(4)

Nid yw’r adran hon nac unrhyw bŵer arall yn y Ddeddf hon i wneud rheolau llys i gael ei gymryd fel pe bai’n cyfyngu mewn unrhyw ffordd ar unrhyw bŵer arall sydd gan yr awdurdod o dan sylw i wneud rheolau llys.

(5)

Wrth wneud unrhyw reolau o dan yr adran hon, bydd yr awdurdod yn ddarostyngedig i’r un gofyniad o ran ymgynghori (os oes un) ag sy’n gymwys pan fydd yr awdurdod yn gwneud rheolau o dan ei bŵer cyffredinol i wneud rheolau.