RHAN 6LL+CPLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Plant sy’n cael eu lletya mewn sefydliadau penodolLL+C

123Gwasanaethau i blant yr hysbysir awdurdod lleol amdanynt F1...LL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol ddarparu unrhyw wasanaethau y mae’n barnu eu bod yn briodol i blant y mae’n cael hysbysiad amdanynt o dan adran 120 neu 121 [F2, neu o dan adran 85 o Ddeddf Plant 1989 (plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg lleol)].

(2)Rhaid i’r gwasanaethau a ddarperir o dan yr adran hon gael eu darparu gyda golwg ar hyrwyddo cyswllt rhwng pob plentyn y mae’r awdurdod lleol yn cael hysbysiad amdano a theulu’r plentyn.

(3)Caiff y gwasanaethau gynnwys unrhyw beth y gall yr awdurdod ei ddarparu neu ei drefnu o dan Ran 4.

(4)Nid oes dim yn yr adran hon sy’n effeithio ar y ddyletswydd a osodwyd gan adran 39.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 123 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 123 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)