Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Valid from 06/04/2016

123Gwasanaethau i blant yr hysbysir awdurdod lleol amdanynt o dan adran 120 neu 121LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i awdurdod lleol ddarparu unrhyw wasanaethau y mae’n barnu eu bod yn briodol i blant y mae’n cael hysbysiad amdanynt o dan adran 120 neu 121.

(2)Rhaid i’r gwasanaethau a ddarperir o dan yr adran hon gael eu darparu gyda golwg ar hyrwyddo cyswllt rhwng pob plentyn y mae’r awdurdod lleol yn cael hysbysiad amdano a theulu’r plentyn.

(3)Caiff y gwasanaethau gynnwys unrhyw beth y gall yr awdurdod ei ddarparu neu ei drefnu o dan Ran 4.

(4)Nid oes dim yn yr adran hon sy’n effeithio ar y ddyletswydd a osodwyd gan adran 39.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 123 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)