RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA
Plant sy’n cael eu lletya mewn sefydliadau penodol
122Ymwelwyr â phlant yr hysbysir awdurdod lleol amdanynt F1...
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys os yw swyddog priodol i awdurdod lleol—
(a)
wedi ei hysbysu mewn cysylltiad â phlentyn o dan adran 120(2)(a) neu 121(2)(a), F2neu o dan adran 85(1) o Ddeddf Plant 1989 (plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg lleol), a
(b)
heb ei hysbysu mewn cysylltiad â’r plentyn hwnnw o dan adran 120(2)(b) neu adran 121(2)(b) F3, neu o dan adran 85(2) o Ddeddf Plant 1989.
(2)
Rhaid i’r awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau a wneir o dan yr adran hon, wneud trefniadau er mwyn i gynrychiolydd yr awdurdod (“cynrychiolydd”) fynd i ymweld â’r plentyn.
(3)
Dyletswydd cynrychiolydd yw rhoi cyngor a chymorth i’r awdurdod lleol ynghylch y modd y mae’r awdurdod yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â’r plentyn.
(4)
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch—
(a)
amlder yr ymweliadau o dan drefniadau ymweld;
(b)
amgylchiadau y mae’n rhaid i drefniadau ymweld odanynt ei gwneud yn ofynnol bod rhywun yn ymweld â’r plentyn;
(c)
swyddogaethau ychwanegol cynrychiolydd.
(5)
Wrth ddewis cynrychiolydd, rhaid i awdurdod lleol fodloni ei hun fod gan y person dewisol y sgiliau a’r profiad angenrheidiol i gyflawni swyddogaethau cynrychiolydd.
(6)
Yn yr adran hon ystyr “trefniadau ymweld” yw’r trefniadau a wneir o dan is-adran (2).