Valid from 06/04/2016
122Ymwelwyr â phlant yr hysbysir awdurdod lleol amdanynt o dan adran 120 neu 121LL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw swyddog priodol i awdurdod lleol—
(a)wedi ei hysbysu mewn cysylltiad â phlentyn o dan adran 120(2)(a) neu 121(2)(a), a
(b)heb ei hysbysu mewn cysylltiad â’r plentyn hwnnw o dan adran 120(2)(b) neu adran 121(2)(b).
(2)Rhaid i’r awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau a wneir o dan yr adran hon, wneud trefniadau er mwyn i gynrychiolydd yr awdurdod (“cynrychiolydd”) fynd i ymweld â’r plentyn.
(3)Dyletswydd cynrychiolydd yw rhoi cyngor a chymorth i’r awdurdod lleol ynghylch y modd y mae’r awdurdod yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â’r plentyn.
(4)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch—
(a)amlder yr ymweliadau o dan drefniadau ymweld;
(b)amgylchiadau y mae’n rhaid i drefniadau ymweld odanynt ei gwneud yn ofynnol bod rhywun yn ymweld â’r plentyn;
(c)swyddogaethau ychwanegol cynrychiolydd.
(5)Wrth ddewis cynrychiolydd, rhaid i awdurdod lleol fodloni ei hun fod gan y person dewisol y sgiliau a’r profiad angenrheidiol i gyflawni swyddogaethau cynrychiolydd.
(6)Yn yr adran hon ystyr “trefniadau ymweld” yw’r trefniadau a wneir o dan is-adran (2).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 122 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)