RHAN 2SWYDDOGAETHAU CYFFREDINOL
Canlyniadau llesiant
12Pŵer i helpu awdurdodau lleol i gydymffurfio â gofynion y cod
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw beth y maent yn ystyried y byddai’n debygol o helpu awdurdod lleol i gydymffurfio â gofynion sy’n cael eu gosod gan god o dan adran 9.
(2)
Mae’r pŵer o dan is-adran (1) yn cynnwys pŵer i—
(a)
ymrwymo i drefniadau neu gytundebau gydag unrhyw berson;
(b)
cydweithredu ag unrhyw berson, neu hwyluso neu gyd-gysylltu gweithgareddau unrhyw berson;
(c)
arfer ar ran unrhyw berson unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau;
(d)
darparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i unrhyw berson.
(3)
Oni bai bod Gweinidogion Cymru’n arfer y pŵer o dan is-adran (1) mewn ymateb i gais a wnaed o dan is-adran (4), rhaid iddynt, cyn arfer y pŵer hwnnw, ymgynghori â’r canlynol—
(a)
yr awdurdod lleol y maent yn bwriadu ei gynorthwyo drwy arfer y pŵer, a
(b)
y personau hynny sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn rhanddeiliaid allweddol y byddai arfer y pŵer yn effeithio arnynt.
(4)
Os yw awdurdod lleol yn gofyn iddynt wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried p’un ai i arfer eu pŵer o dan is-adran (1).