RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Gadael gofal, llety a maethu

116Darpariaeth atodol ynghylch cymorth ar gyfer pobl ifanc mewn addysg bellach neu uwch

(1)

Caiff rheoliadau, at ddibenion adrannau 110(6) a 112(2)—

(a)

pennu’r swm perthnasol;

(b)

pennu ystyr “addysg uwch”;

(c)

gwneud darpariaeth o ran talu’r swm perthnasol;

(d)

gwneud darpariaeth o ran yr amgylchiadau lle y caniateir i’r swm perthnasol (neu unrhyw ran ohono) gael ei adennill gan awdurdod lleol oddi wrth berson ifanc y gwnaed taliad iddo o dan y darpariaethau hynny.

(2)

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer ystyr “addysg bellach” (“further education”), “addysg uwch” (“higher education”), “gwyliau” (“vacation”) a “llawnamser” (“full-time”) at ddibenion adrannau 110(8), 112(4), 114(7) a 115(8).