Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

116Darpariaeth atodol ynghylch cymorth ar gyfer pobl ifanc mewn addysg bellach neu uwchLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff rheoliadau, at ddibenion adrannau 110(6) a 112(2)—

(a)pennu’r swm perthnasol;

(b)pennu ystyr “addysg uwch”;

(c)gwneud darpariaeth o ran talu’r swm perthnasol;

(d)gwneud darpariaeth o ran yr amgylchiadau lle y caniateir i’r swm perthnasol (neu unrhyw ran ohono) gael ei adennill gan awdurdod lleol oddi wrth berson ifanc y gwnaed taliad iddo o dan y darpariaethau hynny.

(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer ystyr “addysg bellach” (“further education”), “addysg uwch” (“higher education”), “gwyliau” (“vacation”) a “llawnamser” (“full-time”) at ddibenion adrannau 110(8), 112(4), 114(7) a 115(8).

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 116 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 116 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)