RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA
Gadael gofal, llety a maethu
114Cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 5 a phobl ifanc a fu gynt yn bobl ifanc categori 5
(1)
Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 5 ystyried a fodlonwyd yr amodau yn is-adran (2) mewn perthynas â’r person ifanc.
(2)
Yr amodau yw—
(a)
bod ar y person angen cymorth o fath y gall yr awdurdod ei roi o dan yr adran hon, a
(b)
bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan y person yr oedd yn derbyn gofal ganddo y cyfleusterau angenrheidiol i’w gynghori neu ymgyfeillio ag ef.
(3)
Os yw’r amodau wedi eu bodloni rhaid i’r awdurdod lleol gynghori’r person ifanc ac ymgyfeillio ag ef a chaiff roi cymorth i’r person hwnnw yn y modd a ddisgrifir yn is-adran (4).
(4)
Caiff y cymorth gael ei roi—
(a)
ar ffurf da;
(b)
drwy gyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw’n agos at i’r man lle y mae, neu y bydd, yn cael ei gyflogi neu’n chwilio am waith;
(c)
drwy gyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw’n agos i’r lle y mae, neu y bydd, yn derbyn addysg neu hyfforddiant;
(d)
drwy roi grant i’r person ifanc i’w alluogi i dalu treuliau sy’n gysylltiedig â’i addysg neu ei hyfforddiant;
(e)
drwy ddarparu llety, os na chaniateir i gymorth gael ei roi mewn cysylltiad â’r llety o dan baragraffau (b) i (d);
(f)
mewn arian parod.
(5)
Caiff awdurdod lleol hefyd roi cymorth yn y modd a ddisgrifir ym mharagraffau (c) a (d) o is-adran (4) i berson ifanc—
(a)
sydd o dan 25 oed, a
(b)
a fyddai’n berson ifanc categori 5 pe bai o dan 21 oed.
(6)
Pan fo awdurdod lleol yn rhoi cymorth yn y modd a ddisgrifir yn is-adran (4)(c) neu (d) caiff ddiystyru unrhyw amhariad ar raglen addysg neu hyfforddiant y mae’r person ifanc yn ei dilyn os yw wedi ei fodloni y bydd y person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(7)
Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni bod person ifanc y caiff ddarparu cymorth iddo o dan is-adran (4) neu (5) mewn addysg bellach neu uwch llawnamser a bod arno angen llety yn ystod gwyliau am nad yw llety yn ystod y tymor ar gael, rhaid iddo—
(a)
darparu llety addas i’r person yn ystod y gwyliau, neu
(b)
talu digon i’r person i sicrhau llety o’r fath.