Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

113Dyletswyddau yn dod i ben mewn perthynas â phobl ifanc categori 4LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae dyletswyddau awdurdod lleol cyfrifol tuag at berson ifanc categori 4 yn dod i ben pan fydd y person ifanc yn peidio â dilyn rhaglen addysg neu hyfforddiant yn unol â’i gynllun llwybr.

(2)At ddibenion is-adran (1), caiff yr awdurdod lleol cyfrifol ddiystyru unrhyw amhariad ar raglen addysg neu hyfforddiant y mae’r person ifanc yn ei dilyn os yw wedi ei fodloni y bydd y person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 113 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 113 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)