RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA
Gadael gofal, llety a maethu
112Cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 4
(1)
Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 4 roi cymorth i’r person ifanc hwnnw, i’r graddau y bo’n ofynnol i’w anghenion addysg neu hyfforddiant, drwy—
(a)
cyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn derbyn addysg neu hyfforddiant;
(b)
gwneud grant i’r person ifanc i’w alluogi i dalu treuliau sy’n gysylltiedig â’i addysg neu ei hyfforddiant.
(2)
Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 4 sy’n dilyn addysg uwch yn unol â’i gynllun llwybr dalu’r swm perthnasol i’r person ifanc hwnnw.
(3)
Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (2)(a) yn ychwanegol at ddyletswydd yr awdurdod lleol cyfrifol o dan is-adran (1).
(4)
Pan fo awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 4 wedi ei fodloni bod y person ifanc mewn addysg bellach neu uwch lawnamser a bod arno angen llety yn ystod gwyliau am nad yw llety yn ystod y tymor ar gael, rhaid iddo—
(a)
darparu llety addas i’r person ifanc yn ystod y gwyliau, neu
(b)
talu digon i’r person ifanc i sicrhau llety o’r fath.
(5)
Caiff yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 4 ystyried ei ddyletswydd o dan is-adran (2) wrth asesu angen y person ifanc o dan adran 107(4) ac wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan is-adrannau (1) a (4).
(6)
Mae’r dyletswyddau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i adran 113.