RHAN 2SWYDDOGAETHAU CYFFREDINOL
Canlyniadau llesiant
I1I211Dyroddi’r cod, ei gymeradwyo a’i ddirymu
1
Cyn dyroddi neu ddiwygio cod o dan adran 9, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy ynghylch drafft o’r cod (neu’r cod diwygiedig).
2
Os bydd Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â’r drafft (gydag addasiadau neu hebddynt) rhaid iddynt osod copi o’r drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
3
Os, cyn diwedd y cyfnod o 40 niwrnod, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft, ni chaniateir i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod (neu’r cod diwygiedig) ar ffurf y drafft hwnnw.
4
Os na wneir penderfyniad o’r fath cyn diwedd y cyfnod hwnnw—
a
rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod (neu’r cod diwygiedig) ar ffurf y drafft, a
b
daw’r cod (neu’r cod diwygiedig) i rym ar y dyddiad a bennir drwy orchymyn Gweinidogion Cymru.
5
O ran y cyfnod o 40 niwrnod—
a
bydd yn dechrau ar y diwrnod y gosodir y drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a
b
ni fydd yn cynnwys unrhyw amser pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu pan fydd ar doriad am fwy na phedwar diwrnod.
6
Nid yw is-adran (3) yn atal drafft newydd o god (neu god diwygiedig) rhag cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
7
Caniateir i Weinidogion Cymru ddirymu cod (neu god diwygiedig) a ddyroddir o dan yr adran hon mewn cod pellach neu drwy gyfarwyddyd.
8
Rhaid gosod cyfarwyddyd o dan is-adran (7) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.