RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA
Gadael gofal, llety a maethu
107Asesiadau a chynlluniau llwybr: cyffredinol
(1)
Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 1 gynnal asesiad o anghenion y person ifanc gyda golwg ar ddyfarnu pa gyngor a chymorth arall y byddai’n briodol iddo eu darparu i’r person ifanc o dan y Rhan hon—
(a)
tra bo’r awdurdod yn dal i ofalu amdano, a
(b)
wedi iddo roi’r gorau i ofalu amdano.
(2)
Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 2 neu gategori 3 nad oes ganddo gynllun llwybr eisoes, gynnal asesiad o anghenion y person ifanc gyda golwg ar ddyfarnu pa gyngor a chymorth arall y byddai’n briodol iddo eu darparu i’r person ifanc o dan y Rhan hon.
(3)
Ar ôl cynnal asesiad o dan is-adran (1) neu (2), rhaid i’r awdurdod lleol lunio cynllun llwybr a’i gynnal cyhyd ag y bydd y person ifanc yn dod o fewn categori 1, 2 neu 3 (ond gweler is-adran (12)).
(4)
Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 4 gynnal asesiad o anghenion y person ifanc gyda golwg ar ddyfarnu pa gyngor a chymorth arall (os oes cyngor a chymorth arall) y byddai’n briodol iddo eu darparu i’r person ifanc o dan y Rhan hon.
(5)
Wrth gynnal asesiad o dan is-adran (4), caiff yr awdurdod lleol ystyried unrhyw ddyletswydd a all fod ganddo i wneud taliad i’r person ifanc o dan adran 112(2).
(6)
Ar ôl cynnal asesiad o dan is-adran (4), rhaid i’r awdurdod lleol lunio cynllun llwybr.
(7)
Mae cynllun llwybr yn gynllun sy’n nodi—
(a)
yn achos cynllun ar gyfer person ifanc categori 1—
(i)
y cyngor a’r cymorth arall y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu darparu i’r person ifanc o dan y Rhan hon, tra bydd yn gofalu amdano ac wedi hynny, a
(ii)
pryd y byddai, o bosibl, yn rhoi’r gorau i ofalu amdano;
(b)
yn achos cynllun ar gyfer person ifanc categori 2, categori 3 neu gategori 4, y cyngor a’r cymorth arall y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu darparu i’r person ifanc o dan y Rhan hon;
(c)
unrhyw faterion eraill (os oes rhai) a bennir mewn rheoliadau.
(8)
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth o ran asesiadau at ddibenion yr adran hon.
(9)
Caiff y rheoliadau, er enghraifft, wneud darpariaeth ynglŷn â’r canlynol—
(a)
y personau y dylid ymgynghori â hwy mewn perthynas ag asesiad;
(b)
sut mae asesiad i’w gynnal, gan bwy a phryd;
(c)
cofnodi canlyniadau asesiad;
(d)
yr ystyriaethau y mae’r awdurdod lleol i roi sylw iddynt wrth gynnal asesiad.
(10)
Rhaid i’r awdurdod lleol adolygu’r cynllun llwybr yn gyson (ond gweler is-adrannau (12) a (13)).
(11)
Caiff yr awdurdod lleol gynnal asesiad neu adolygiad o dan yr adran hon ar yr un adeg ag unrhyw asesiad neu adolygiad arall o anghenion y person ifanc.
(12)
Yn achos person ifanc categori 3, mae’r dyletswyddau o dan is-adrannau (3) a (10) yn ddarostyngedig i adran 111.
(13)
Yn achos person ifanc categori 4, mae’r ddyletswydd o dan is-adran (10) yn ddarostyngedig i adran 113.