RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA
Gadael gofal, llety a maethu
105Cadw mewn cysylltiad
(1)
Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 2 neu gategori 3 gymryd camau rhesymol i gadw mewn cysylltiad â’r person hwnnw p’un a yw’r person o fewn ei ardal ai peidio.
(2)
Os yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 2 neu gategori 3 wedi colli cyswllt â’r person hwnnw, rhaid iddo—
(a)
ystyried sut i ailsefydlu’r cyswllt hwnnw, a
(b)
cymryd camau rhesymol i wneud hynny.
(3)
Yn achos person ifanc categori 2, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol gyflawni ei ddyletswyddau o dan is-adran (2) heb unrhyw oedi a pharhau i gymryd camau rhesymol i ailsefydlu’r cyswllt hyd nes y bydd yn llwyddo.
(4)
Yn achos person ifanc categori 3, mae’r dyletswyddau o dan is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i adran 111.
(5)
Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 6 sy’n dod o fewn y categori hwnnw yn rhinwedd adran 104(3)(a) gymryd camau rhesymol i gysylltu â’r person ifanc ar yr adegau hynny y mae’n eu hystyried yn briodol gyda golwg ar gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 115.