Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

105Cadw mewn cysylltiadLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 2 neu gategori 3 gymryd camau rhesymol i gadw mewn cysylltiad â’r person hwnnw p’un a yw’r person o fewn ei ardal ai peidio.

(2)Os yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 2 neu gategori 3 wedi colli cyswllt â’r person hwnnw, rhaid iddo—

(a)ystyried sut i ailsefydlu’r cyswllt hwnnw, a

(b)cymryd camau rhesymol i wneud hynny.

(3)Yn achos person ifanc categori 2, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol gyflawni ei ddyletswyddau o dan is-adran (2) heb unrhyw oedi a pharhau i gymryd camau rhesymol i ailsefydlu’r cyswllt hyd nes y bydd yn llwyddo.

(4)Yn achos person ifanc categori 3, mae’r dyletswyddau o dan is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i adran 111.

(5)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 6 sy’n dod o fewn y categori hwnnw yn rhinwedd adran 104(3)(a) gymryd camau rhesymol i gysylltu â’r person ifanc ar yr adegau hynny y mae’n eu hystyried yn briodol gyda golwg ar gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 115.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 105 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 105 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)