RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Adolygu achosion

102Adolygu achosion ac ymchwilio i sylwadau

(1)

Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i achos bob plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol gael ei adolygu yn unol â darpariaethau’r rheoliadau.

(2)

Ymhlith pethau eraill, caiff y rheoliadau ddarparu ar gyfer—

(a)

y modd y mae pob achos i’w adolygu;

(b)

yr ystyriaethau y mae hi’n ofynnol i’r awdurdod lleol roi sylw iddynt wrth adolygu pob achos;

(c)

pryd y mae gofyn i bob achos gael ei adolygu am y tro cyntaf a pha mor aml y bydd adolygiadau dilynol i’w cynnal;

(d)

ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod, cyn iddo gynnal unrhyw adolygiad, geisio barn—

(i)

y plentyn,

(ii)

rhieni’r plentyn,

(iii)

unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto, a

(iv)

unrhyw berson arall y mae’r awdurdod yn ystyried bod ei farn yn berthnasol,

gan gynnwys, yn benodol, farn y personau hynny mewn perthynas ag unrhyw fater penodol sydd i’w ystyried yn ystod yr adolygiad;

(e)

ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod, yn achos plentyn sydd o dan ei ofal—

(i)

adolygu’n gyson y cynllun o dan adran 31A o Ddeddf Plant 1989 (gorchmynion gofal: cynlluniau gofal) ar gyfer y plentyn ac, os yw’r awdurdod o’r farn bod angen newid o ryw fath, i ddiwygio’r cynllun, neu wneud cynllun newydd yn unol â hynny, a

(ii)

ystyried a ddylid gwneud cais i ddiddymu’r gorchymyn gofal;

(f)

ei gwneud yn ofynnol, yn achos plentyn mewn llety a ddarperir gan neu ar ran yr awdurdod—

(i)

os nad oes cynllun ar gyfer gofal y plentyn yn y dyfodol, i’r awdurdod lunio un,

(ii)

os oes cynllun o’r fath ar gyfer y plentyn, i’r awdurdod ei adolygu’n gyson ac, os yw o’r farn bod angen newid o ryw fath, iddo ddiwygio’r cynllun neu wneud cynllun newydd yn unol â hynny, a

(iii)

ystyried a yw’r llety yn unol â gofynion y Rhan hon;

(g)

ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod roi gwybod i’r plentyn, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, am unrhyw gamau y caiff ef neu hi gymryd o dan y Ddeddf hon neu Ddeddf Plant 1989;

(h)

ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod wneud trefniadau, gan gynnwys trefniadau gydag unrhyw gyrff eraill sy’n darparu gwasanaethau ac y mae’n barnu bod y cyrff hynny yn briodol, i weithredu unrhyw benderfyniad y mae’n bwriadu ei wneud yn ystod yr adolygiad neu yn ganlyniad iddo;

(i)

ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod hysbysu’r canlynol am fanylion canlyniad yr adolygiad ac am unrhyw benderfyniad a gymerwyd ganddo o ganlyniad i’r adolygiad—

(i)

y plentyn,

(ii)

rhieni’r plentyn,

(iii)

unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto, a

(iv)

unrhyw berson arall y dylid, yn ei farn ef, ei hysbysu;

(j)

ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod fonitro’r trefniadau a wnaed ganddo gyda golwg ar sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r rheoliadau.