Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

100Swyddogaethau’r swyddog adolygu annibynnolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i’r swyddog adolygu annibynnol—

(a)monitro’r modd y mae’r awdurdod lleol yn cyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas ag achos y plentyn;

(b)cymryd rhan, yn unol â rheoliadau, mewn unrhyw adolygiad ar achos y plentyn;

(c)sicrhau bod unrhyw ddymuniadau a theimladau canfyddedig y plentyn ynglŷn â’r achos yn cael eu hystyried yn briodol gan yr awdurdod lleol;

(d)cyflawni unrhyw swyddogaeth arall a bennir mewn rheoliadau.

(2)Rhaid i swyddogaethau swyddog adolygu annibynnol gael eu cyflawni—

(a)yn y modd a bennir mewn rheoliadau, a

(b)gan roi sylw i unrhyw ganllawiau y bydd yr awdurdod hwnnw yn ei gyhoeddi mewn perthynas â chyflawni’r swyddogaethau hynny.

(3)Os bydd y swyddog adolygu annibynnol o’r farn ei bod hi’n briodol gwneud hynny, caniateir i achos y plentyn gael ei atgyfeirio gan y swyddog hwnnw at un o swyddogion achosion teuluol Cymru.

(4)Os nad yw’r swyddog adolygu annibynnol yn swyddog i’r awdurdod lleol, mae’n ddyletswydd ar yr awdurdod—

(a)i gydweithredu â’r unigolyn hwnnw, a

(b)i gymryd unrhyw gamau rhesymol y bydd ar yr unigolyn hwnnw eu hangen i alluogi swyddogaethau’r unigolyn hwnnw o dan yr adran hon i gael eu cyflawni yn foddhaol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 100 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 100 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)