RHAN 2SWYDDOGAETHAU CYFFREDINOL
Canlyniadau llesiant
10Awdurdodau lleol a’r cod
(1)
Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, rhaid i awdurdod lleol—
(a)
gweithredu’n unol ag unrhyw ofynion perthnasol a osodir arno gan god a ddyroddir o dan adran 9, a
(b)
rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol sydd wedi eu cynnwys yn y cod hwnnw.
(2)
Pan fo mesurau perfformiad neu dargedau perfformiad wedi eu pennu mewn cod a ddyroddir o dan adran 9, maent i’w trin (i’r graddau y maent yn gymwys i berfformiad awdurdodau lleol wrth iddynt arfer eu swyddogaethau) fel pe baent wedi eu pennu fel dangosyddion perfformiad neu safonau perfformiad yn ôl eu trefn o dan adran 8(1) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.