F1Atodlen A1Taliadau Uniongyrchol: Ôl-ofal o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
Addasiadau i adran 51
7.
Yn lle is-adran (1) o adran 51 rhodder—
“(1)
Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol wneud taliadau i berson mewn cysylltiad â phlentyn y mae adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) yn gymwys iddo sy’n gyfatebol i’r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal i’r plentyn o dan yr adran honno.”