F1Atodlen A1Taliadau Uniongyrchol: Ôl-ofal o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
Addasiadau i adran 50
5.
Yn is-adran (5) o’r adran honno—
(a)
ym mharagraff (a), yn lle “anghenion A am ofal a chymorth” rhodder “darparu i A wasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”, a
(b)
ym mharagraff (b), yn lle “tuag at y gost o ddiwallu anghenion A am ofal a chymorth” rhodder “sy’n gyfatebol i’r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu i A wasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”.