F1Atodlen A1Taliadau Uniongyrchol: Ôl-ofal o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
Addasiadau i adran 53
12.
Ar ôl is-adran (8) o’r adran honno mewnosoder—
“(8A)
Rhaid i reoliadau a wneir o dan adrannau 50 a 51 bennu bod rhaid i daliadau uniongyrchol i dalu’r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal o dan adran 177 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) gael eu gwneud ar raddfa y mae’r awdurdod lleol yn amcangyfrif ei bod yn gyfatebol i’r gost resymol o sicrhau’r ddarpariaeth o’r gwasanaethau hynny i ddiwallu’r anghenion hynny.”