xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

[F1Atodlen A1LL+CTaliadau Uniongyrchol: Ôl-ofal o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983

CyffredinolLL+C

1.Mae adran 50 (taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion oedolyn), 51 (taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion plentyn) a 53 (taliadau uniongyrchol: darpariaeth bellach) yn gymwys mewn perthynas ag adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 ond fel pe bai’r addasiadau a ganlyn wedi eu gwneud i’r adrannau hynny.

Addasiadau i adran 50LL+C

2.Yn lle is-adran (1) o adran 50 rhodder—

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol wneud taliadau i oedolyn y mae adran 177 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) yn gymwys iddo sy’n gyfatebol i’r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal i’r oedolyn o dan yr adran honno.

3.Yn is-adran (3) o’r adran honno—

(a)ym mharagraff (a), yn lle “y mae arno anghenion am ofal a chymorth (“A”)” rhodder “mewn cysylltiad â darparu i’r oedolyn (“A”) wasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”, a

(b)ym mharagraff (c)(i), yn lle “o ddiwallu anghenion A” rhodder “o gyflawni ei ddyletswydd tuag at A o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”.

4.Yn is-adran (4) o’r adran honno—

(a)ym mharagraff (a), yn lle “y mae arno anghenion am ofal a chymorth (“A”)” rhodder “y mae adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn gymwys iddo (“A”)”, a

(b)ym mharagraff (d)(i) yn lle “o ddiwallu anghenion A” rhodder “o gyflawni ei ddyletswydd tuag at A o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”.

5.Yn is-adran (5) o’r adran honno—

(a)ym mharagraff (a), yn lle “anghenion A am ofal a chymorth” rhodder “darparu i A wasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”, a

(b)ym mharagraff (b), yn lle “tuag at y gost o ddiwallu anghenion A am ofal a chymorth” rhodder “sy’n gyfatebol i’r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu i A wasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”.

6.Yn is-adran (6)(b) o’r adran honno, yn lle “anghenion A am ofal a chymorth” rhodder “darparu i A wasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”.

Addasiadau i adran 51LL+C

7.Yn lle is-adran (1) o adran 51 rhodder—

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol wneud taliadau i berson mewn cysylltiad â phlentyn y mae adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) yn gymwys iddo sy’n gyfatebol i’r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal i’r plentyn o dan yr adran honno.

8.Yn is-adran (3)(a) a (b) o’r adran honno, yn lle “y mae arno anghenion am ofal a chymorth” (ym mhob lle y mae’n digwydd) rhodder “y mae adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn gymwys iddo”.

9.Yn is-adran (5)(a) o’r adran honno, yn lle “ddiwallu anghenion y plentyn” rhodder “gyflawni ei ddyletswydd tuag at y plentyn o dan adran 177 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”.

Addasiadau i adran 53LL+C

10.Yn is-adran (1) o adran 53—

(a)yn y geiriau agoriadol, yn lle “50, 51 neu 52” rhodder “50 neu 51”,

(b)hepgorer paragraffau (a), (b) ac (c),

(c)ym mharagraff (i), yn lle “y disodlir odanynt ddyletswydd neu bŵer awdurdod lleol i ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth, neu anghenion gofalwr am gymorth, drwy wneud taliadau uniongyrchol, ac i ba raddau y disodlir y ddyletswydd honno neu’r pŵer hwnnw” rhodder “y cyflawnir odanynt ddyletswydd awdurdod lleol o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal), drwy wneud taliadau uniongyrchol, ac i ba raddau y cyflawnir y ddyletswydd honno”, a

(d)ym mharagraff (k), yn lle “50 i 52” rhodder “50 neu 51”.

11.Hepgorer is-adrannau (2) i (8) o’r adran honno.

12.Ar ôl is-adran (8) o’r adran honno mewnosoder—

(8A)Rhaid i reoliadau a wneir o dan adrannau 50 a 51 bennu bod rhaid i daliadau uniongyrchol i dalu’r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal o dan adran 177 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) gael eu gwneud ar raddfa y mae’r awdurdod lleol yn amcangyfrif ei bod yn gyfatebol i’r gost resymol o sicrhau’r ddarpariaeth o’r gwasanaethau hynny i ddiwallu’r anghenion hynny.

13.Yn is-adran (9) o’r adran honno—

(a)yn lle “, 51 neu 52” rhodder “neu 51”, a

(b)yn lle “gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwr, gymorth)” rhodder “gwasanaethau ôl-ofal”.

14.Yn lle is-adran (10) o’r adran honno, yn lle “ofal a chymorth (neu, yn achos gofalwr, gymorth) i ddiwallu anghenion” rhodder “wasanaethau ôl-ofal”.]