ATODLEN 2SWYDDOGAETHAU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

( a gyflwynwyd gan adran 143)

TABL 1

Y deddfiad

Natur y swyddogaethau

Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933

Adrannau 34 a 34A

Amddiffyn yr ifanc mewn perthynas ag achosion troseddol a diannod.

Deddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968

Adran 65

Cymorth ariannol a chymorth arall a roddir gan awdurdodau lleol i sefydliadau gwirfoddol penodol.

Deddf Plant a Phobl Ifanc 1969

Y Ddeddf gyfan

Gofal a dulliau eraill o ymdrin â phlant a phersonau ifanc yn ystod achosion llys.

Deddf Mabwysiadu 1976

Swyddogaethau sy’n parhau i fod yn arferadwy yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed a wneir gan neu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.

Deddf Iechyd Meddwl 1983

Rhannau 2, 3 a 4; Adrannau 66, 67, 69(1), 114, 115, 116, 117 a 130

Lles y rhai hynny sydd ag anhwylder meddwl; gwarcheidiaeth personau sy’n dioddef gan anhwylder meddwl gan gynnwys y personau hynny sydd wedi eu symud i Gymru a Lloegr o’r Alban neu o Ogledd Iwerddon; arfer swyddogaethau perthynas agosaf y person sy’n dioddef felly; arfer swyddogaethau’r perthynas agosaf mewn perthynas â cheisiadau a chyfeiriadau at y Tribiwnlys Haen Gyntaf neu Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru; penodi gweithwyr iechyd meddwl sydd wedi eu cymeradwyo; mynd i mewn ac arolygu; lles ysbytai penodol; ôl-ofal cleifion a gedwir yn gaeth; erlyniadau.

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984

Adran 46(2) a (5)

Claddu neu amlosgi person sy’n marw mewn llety a ddarperir o dan F1Ran 4 o’r Ddeddf hon ac adennill treuliau o ystad y person hwnnw.

Deddf Iechyd Meddwl (Yr Alban) 1984

Adran 10

Lles personau penodol tra bônt yn yr ysbyty yn yr Alban.

Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986

F2Adrannau 1, 2 a 5(5)

Cynrychioli ac asesu personau anabl.

Deddf Tai (Yr Alban) 1987

Adran 38(b)

Cydweithredu mewn perthynas â phersonau digartref a phersonau sydd o dan fygythiad o gael eu gwneud yn ddigartref.

F3Deddf Plant 1989

Y Ddeddf gyfan i’r graddau y mae’n rhoi swyddogaethau i awdurdod lleol yng Nghymru o fewn ystyr y Ddeddf ac eithrio—

  1. (a)

    Rhan 3 ac Atodlen 2 (cymorth awdurdod lleol i blant a theuluoedd);

  2. (b)

    adran 36 a pharagraffau 12 i 19(1) o Atodlen 3 (gorchmynion goruchwylio addysg).

F3Adroddiadau lles; cydsynio i gais am orchymyn preswylio mewn cysylltiad â phlentyn mewn gofal; swyddogaethau sy’n ymwneud â gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig; gorchmynion cymorth teulu; gofal a goruchwylio; amddiffyn plant; swyddogaethau mewn perthynas â chartrefi cymunedol, cartrefi gwirfoddol a sefydliadau gwirfoddol, cartrefi plant preifat, a threfniadau preifat ar gyfer maethu plant; arolygu cartrefi plant ar ran Gweinidogion Cymru; ymchwil a dychwelebau gwybodaeth.

F4Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990

Adran 47

F4Asesiad o anghenion am wasanaethau o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

F5. . .

F5. . .

F6Deddf Addysg 1996

Adran 322

F6Cymorth i awdurdod lleol arall wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan Ran 4 o’r Ddeddf.

Deddf Mabwysiadu (Agweddau Rhwng Gwledydd) 1999

Adrannau 1 a 2(4)

Swyddogaethau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 1 yn rhoi effaith i’r Confensiwn ar Amddiffyn Plant a Chydweithredu mewn cysylltiad â Mabwysiadu Rhwng Gwledydd, a gwblhawyd yn yr Hag ar 29 Mai 1993, a swyddogaethau o dan Erthygl 9(a) i (c) o’r Confensiwn.

Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002

Cynnal Gwasanaeth Mabwysiadu; swyddogaethau awdurdod lleol fel asiantaeth fabwysiadu.

F7. . .

F7. . .

Deddf Galluedd Meddyliol 2005

Adrannau 39, 39A, 39C, 39D, 49 ac Atodlen A1

Cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol cyn darparu llety i berson nad oes ganddo alluedd; cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol wrth roi awdurdodiad brys, neu wrth wneud cais am awdurdodiad safonol, o dan Atodlen A1 i’r Ddeddf; cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol pan na fo cynrychiolydd ar gael ar gyfer person perthnasol o dan Ran 10 o Atodlen A1 i’r Ddeddf; cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol pan na fo cynrychiolydd ar gyfer person perthnasol o dan Ran 10 o Atodlen A1 i’r Ddeddf yn cael ei dalu; adroddiadau mewn achosion cyfreithiol; swyddogaethau sy’n ymwneud â phreswylwyr ysbytai a chartrefi gofal.

Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

Adran 66

Swyddogion safonau gwaith cymdeithasol teuluol.

F8Adran 67

F8Y ddarpariaeth o wasanaethau gofal perthnasol o fewn ystyr yr adran honno.

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

Rhannau 1 i 3

Gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, cydgysylltu a chynllunio gofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd, asesu defnyddwyr blaenorol gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.

Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012

Adran 92

Swyddogaethau mewn perthynas â phlentyn sydd wedi ei remandio i lety awdurdod lleol.

Deddf Gofal 2014

Adrannau 50 a 52

Dyletswydd dros dro i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth (neu anghenion am gymorth) pan fo sefydliad neu asiantaeth yn methu â’u diwallu oherwydd methiant busnes.

F9Deddf Tai (Cymru) 2014

Adran 95(2),(3) a (4); ond dim ond pan fo’r swyddogaethau hynny’n gymwys yn rhinwedd is-adran (5)(b) o’r adran honno.

F9Cydweithredu a rhannu gwybodaeth mewn perthynas â phersonau digartref a phersonau sydd o dan fygythiad o gael eu gwneud yn ddigartref.

Y Ddeddf hon

Y Ddeddf gyfan, ac eithrio’r swyddogaethau o dan adrannau 15(4) (i’r graddau y mae’n ymwneud â swyddogaethau eraill nad ydynt yn rhai gwasanaethau cymdeithasol), 120(2), 128(1) a (2), 130(1) a (2), 162 ac adran 164.

Gwasanaethau ataliol; gofal a chymorth; cymorth i ofalwyr; plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya; diogelu oedolion a phlant.

F10Deddf Plant a Theuluoedd 2014

Y ddyletswydd i gydymffurfio â chais o dan adran 31, ond dim ond mewn cysylltiad â cheisiadau i arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

Dyletswydd i gydymffurfio â chais i gydweithredu gan awdurdod lleol yn Lloegr at ddiben arfer swyddogaethau o dan Ran 3 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014.

F11Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Y ddyletswydd i gydymffurfio â chais o dan adran 65, ond dim ond mewn cysylltiad â cheisiadau i arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

Dyletswydd i gydymffurfio â chais i gydweithredu gan awdurdod lleol yn Lloegr at ddiben arfer swyddogaethau o dan Ran 3 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014.