4F1(1). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F1(2). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(3)Pan fo cyfrannwr wedi cytuno, neu wedi cael ei orchymyn, i wneud cyfraniadau i awdurdod lleol , caiff unrhyw awdurdod lleol arall [F2neu awdurdod lleol yn Lloegr] y mae’r cyfrannwr yn byw yn ei ardal am y tro—
(a)ar gais yr awdurdod lleol a gyflwynodd yr hysbysiad cyfrannu, a
(b)yn ddarostyngedig i gytundeb ynghylch unrhyw swm sydd i’w ddidynnu mewn cysylltiad â’r gwasanaethau a ddarparwyd,
gasglu oddi wrth y cyfrannwr unrhyw gyfraniadau sy’n ddyledus ar ran yr awdurdod a gyflwynodd yr hysbysiad.
(4)Mae’r pŵer i gasglu symiau o dan is-baragraff (3) yn cynnwys pŵer i—
(a)cael unrhyw gyfraniadau sy’n ddyledus a rhoi rhyddhad rhag eu talu, a
(b)(os yw’n angenrheidiol) gorfodi unrhyw gyfraniadau i gael eu talu,
er ei bod yn bosibl bod y cyfraniadau hynny wedi dod yn ddyledus ar adeg pan roedd y cyfrannwr yn byw yn rhywle arall.
(5)Mae unrhyw gyfraniad a gesglir o dan is-baragraff (3) i’w dalu (yn ddarostyngedig i unrhyw ddidyniad y cytunwyd arno) i’r awdurdod lleol a gyflwynodd yr hysbysiad cyfraniadau.
(6)Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y paragraff hwn, mae dogfen—
(a)sy’n honni ei bod yn gopi o orchymyn a wnaed gan lys o dan neu yn rhinwedd paragraff 3, a
(b)sy’n honni ei bod wedi ei hardystio’n wir gopi gan y swyddog dynodedig i’r llys,
i’w derbyn fel tystiolaeth o’r gorchymyn.
(7)Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y paragraff hwn, mae tystysgrif—
(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan y clerc neu gan ryw swyddog arall a awdurdodwyd yn briodol a hwnnw’n swyddog i’r awdurdod lleol a sicrhaodd y gorchymyn cyfrannu, a
(c)sy’n nodi bod unrhyw swm sy’n ddyledus i’r awdurdod o dan y gorchymyn yn orddyledus a heb ei dalu,
i’w derbyn fel tystiolaeth bod y swm yn orddyledus a heb ei dalu.
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 1 para. 4(1)(2) wedi eu hepgor (6.4.2016) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 321(a)
F2Geiriau yn Atod. 1 para. 4(3) wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 321(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
I2Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)