xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1LL+CCYFRANIADAU TUAG AT GYNHALIAETH PLANT SY’N DERBYN GOFAL

Gorchmynion cyfraniadauLL+C

3(1)Pan fo hysbysiad cyfrannu wedi ei gyflwyno i gyfrannwr a bod—

(a)y cyfrannwr wedi methu â dod i unrhyw gytundeb gyda’r awdurdod lleol fel a grybwyllwyd ym mharagraff 2(7) o fewn cyfnod o fis sy’n dechrau ar y diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad am gyfraniadau, neu

(b)y cyfrannwr wedi cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 2(9) yn tynnu ei gytundeb yn ôl,

caiff yr awdurdod wneud cais i’r llys am orchymyn o dan y paragraff hwn.

(2)Wrth gael cais o’r fath caiff y llys wneud gorchymyn (“gorchymyn cyfrannu”) yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyfrannwr gyfrannu swm wythnosol tuag at gynhaliaeth y plentyn yn unol â threfniadau ar gyfer talu a bennir gan y llys.

(3)O ran gorchymyn cyfrannu—

(a)ni chaiff bennu swm wythnosol sy’n uwch na’r hyn a bennir yn yr hysbysiad cyfrannu, a

(b)rhaid ei wneud gan roi sylw i foddion byw y cyfrannwr.

(4)Ni chaiff gorchymyn cyfrannu—

(a)dod yn effeithiol cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad cyfrannu,

(b)cael effaith tra na bo’r cyfrannwr yn atebol am gyfrannu (yn rhinwedd paragraff 1), nac

(c)aros mewn grym ar ôl i’r plentyn beidio mwyach â bod yn un sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod a sicrhaodd y gorchymyn.

(5)Ni chaiff awdurdod wneud cais i’r llys o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â hysbysiad cyfrannu y mae wedi ei dynnu yn ôl.

(6)Pan fo—

(a)gorchymyn cyfrannu mewn grym,

(b)yr awdurdod yn cyflwyno hysbysiad cyfrannu arall, ac

(c)y cyfrannwr a’r awdurdod yn dod i gytundeb o dan baragraff 2(7) mewn perthynas â’r hysbysiad cyfrannu arall hwnnw,

effaith y cytundeb yw disodli’r gorchymyn o’r dyddiad y cytunir bod y cytundeb i ddod yn effeithiol.

(7)Pan ddeuir i gytundeb yn yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (6) rhaid i’r awdurdod hysbysu’r llys—

(a)am y cytundeb, a

(b)am y dyddiad y daeth yn effeithiol.

(8)Caniateir i orchymyn cyfrannu gael ei amrywio neu ei ddirymu ar gais y cyfrannwr neu’r awdurdod.

(9)Mewn achos cyfreithiol ar gyfer amrywio gorchymyn cyfrannu, rhaid i’r awdurdod bennu—

(a)y swm wythnosol, gan roi sylw i baragraff 2, y mae’n bwriadu y dylai’r cyfrannwr ei gyfrannu o dan y gorchymyn fel y bydd yn cael ei amrywio, a

(b)y trefniadau arfaethedig ar gyfer talu.

(10)Pan fo gorchymyn cyfrannu wedi ei amrywio—

(a)ni chaiff y gorchymyn bennu swm wythnosol sy’n uwch na’r un a bennwyd gan yr awdurdod yn yr achos cyfreithiol ar gyfer ei amrywio, a

(b)rhaid i’r gorchymyn gael ei wneud gan roi sylw i foddion byw y cyfrannwr.

(11)Ceir gwneud apêl yn unol â rheolau’r llys yn erbyn unrhyw orchymyn a wneir o dan y paragraff hwn.

[F1(12)Bydd gorchymyn cyfrannu mewn perthynas â phlentyn, pe byddai fel arall yn parhau mewn grym, yn peidio â chael effaith pan fydd y plentyn yn cyrraedd 18 oed.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)