xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 8LL+CSWYDDOGAETHAU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

Ymyriadau gan y llywodraeth ganologLL+C

150Y seiliau dros ymyrrydLL+C

At ddibenion y Rhan hon, mae’r seiliau dros ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol fel a ganlyn—

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 150 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 150 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

151Hysbysiad rhybuddioLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad rhybuddio i awdurdod lleol os ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 3 yn bodoli mewn perthynas â’r awdurdod lleol.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru bennu pob un o’r canlynol yn yr hysbysiad rhybuddio—

(a)y seiliau dros ymyrryd;

(b)y rhesymau pam y maent wedi eu bodloni bod y seiliau yn bodoli;

(c)y camau gweithredu y maent yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol eu cymryd i ddelio â’r seiliau dros ymyrryd;

(d)y cyfnod y mae’r camau i’w cymryd ynddo gan yr awdurdod lleol (“y cyfnod cydymffurfio”);

(e)y camau y maent â’u bryd ar eu cymryd os bydd yr awdurdod lleol yn methu â chymryd y camau sy’n ofynnol.

(3)Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad rhybuddio o dan is-adran (1), rhaid iddynt—

(a)o fewn 21 diwrnod o roi’r hysbysiad, osod copi ohono gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b)o fewn 90 diwrnod o roi’r hysbysiad, adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch y camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol mewn ymateb i’r hysbysiad rhybuddio.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 151 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I4A. 151 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

152Pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrrydLL+C

(1)Mae gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd o dan y Rhan hon â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol os yw is-adran (2) neu (3) yn gymwys.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad rhybuddio, a

(b)os yw awdurdod lleol wedi methu â chydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â’r hysbysiad er boddhad Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod cydymffurfio.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 3 yn bodoli mewn perthynas â’r awdurdod lleol a bod ganddynt reswm dros gredu—

(a)bod risg cysylltiedig i iechyd neu ddiogelwch unrhyw berson sy’n galw am ymyrraeth frys o dan y Rhan hon, neu

(b)ei bod yn annhebygol y byddai’r awdurdod lleol yn gallu cydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â hysbysiad rhybuddio.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn 90 diwrnod i’r dyddiad y maent yn dechrau ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch y camau a gymerwyd yn unol â’r ymyriad.

(5)Pan fo gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd, rhaid iddynt adolygu’n gyson yr amgylchiadau sy’n rhoi cychwyn i’r pŵer.

(6)Os daw Gweinidogion Cymru i’r casgliad bod y seiliau dros ymyrryd wedi cael eu trin er boddhad iddynt neu na fyddai arfer eu pwerau o dan y Rhan hon yn briodol am unrhyw reswm arall, rhaid iddynt hysbysu yr awdurdod lleol yn ysgrifenedig am eu casgliad.

(7)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd yn parhau i gael effaith hyd nes y byddant yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (6).

(8)Hyd nes y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (6), rhaid i Weinidogion Cymru adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, bob 6 mis o’r dyddiad y maent yn dechrau ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, ynghylch y camau sy’n cael eu cymryd yn unol â’r ymyriad.

(9)Pan fo gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd, nid ydynt wedi eu cyfyngu i gymryd y camau gweithredu yr oeddent wedi dweud mewn hysbysiad rhybuddio eu bod â’u bryd ar eu cymryd.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 152 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I6A. 152 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

153Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gael gwasanaethau cynghoriLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r awdurdod lleol i ymrwymo i gontract neu drefniant arall gyda pherson penodedig, neu berson sy’n dod o fewn dosbarth penodedig, ar gyfer darparu i’r awdurdod wasanaethau penodedig cynghorol eu natur.

(3)Caiff y cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i’r contract neu drefniant arall gynnwys telerau ac amodau penodedig.

(4)Yn yr adran hon ac adran 154 ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn cyfarwyddyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 153 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I8A. 153 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

154Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan bersonau eraill ar ran yr awdurdodLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o’r fath i’r awdurdod lleol neu unrhyw un o’i swyddogion y maent yn credu ei fod yn briodol i sicrhau bod y swyddogaethau hynny y mae’r seiliau dros ymyrryd yn ymwneud â hwy yn cael eu cyflawni ar ran yr awdurdod gan berson a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (2) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gontract neu drefniant arall a wneir gan yr awdurdod gyda’r person penodedig gynnwys telerau ac amodau a bennir yn y cyfarwyddyd.

(4)Os oes cyfarwyddyd o dan is-adran (2) mewn grym, mae swyddogaethau’r awdurdod lleol y mae’n ymwneud â hwy i’w trin at bob diben fel eu bod yn arferadwy gan y person penodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 154 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I10A. 154 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

155Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan Weinidogion Cymru neu enwebaiLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod y swyddogaethau y mae’r seiliau dros ymyrryd yn ymwneud â hwy i’w harfer gan Weinidogion Cymru neu berson a enwebir ganddynt hwy.

(3)Os gwneir cyfarwyddyd o dan is-adran (2), rhaid i’r awdurdod lleol gydymffurfio ag arweiniad Gweinidogion Cymru neu eu henwebai mewn perthynas ag arfer y swyddogaethau.

(4)Os oes cyfarwyddyd o dan is-adran (2) mewn grym, mae swyddogaethau’r awdurdod lleol y mae’n ymwneud â hwy i’w trin at bob diben fel eu bod yn arferadwy gan Weinidogion Cymru neu eu henwebai.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 155 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I12A. 155 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

156Pŵer i gyfarwyddo bod swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol eraill yn cael eu harferLL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn hwylus, caiff cyfarwyddyd o dan adran 154 neu 155 ymwneud â chyflawni swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn ychwanegol at y swyddogaethau y mae’r seiliau dros ymyrryd yn ymwneud â hwy.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi sylw (ymhlith pethau eraill) i ystyriaethau ariannol wrth benderfynu a yw’n hwylus bod cyfarwyddyd yn ymwneud â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol nad ydynt yn swyddogaethau sy’n ymwneud â’r seiliau dros ymyrryd.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 156 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I14A. 156 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

157Pŵer cyffredinol i roi cyfarwyddiadau a chymryd camauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn briodol er mwyn delio â’r seiliau dros ymyrryd, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cyfarwyddo’r awdurdod lleol neu unrhyw un neu rai o’i swyddogion, neu

(b)cymryd unrhyw gamau eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 157 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I16A. 157 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

158Ymyrryd: dyletswydd i adroddLL+C

Pan fo Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer i roi cyfarwyddyd o dan adran 153, 154, 155 neu 157, rhaid iddynt—

(a)o fewn 21 diwrnod o roi’r cyfarwyddyd, osod copi o’r cyfarwyddyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b)o fewn 90 diwrnod o roi’r cyfarwyddyd, adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch y camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol i gydymffurfio â’r cyfarwyddyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 158 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I18A. 158 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

159CyfarwyddiadauLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol, neu swyddog i awdurdod, sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd neu arweiniad o dan y Rhan hon gydymffurfio ag ef.

(2)Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd neu arweiniad i arfer swyddogaeth sy’n amodol ar farn yr awdurdod lleol neu swyddog i’r awdurdod.

(3)O ran cyfarwyddyd o dan y Rhan hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;

(c)mae’n orfodadwy drwy orchymyn gorfodol ar gais gan, neu ar ran, Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 159 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I20A. 159 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

160Dyletswydd i gydweithreduLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol roi i Weinidogion Cymru ac unrhyw berson a grybwyllir yn is-adran (2) gymaint o gymorth ag y gall yr awdurdod lleol yn rhesymol ei roi mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan, neu yn rhinwedd, y Rhan hon.

(2)Y personau yw—

(a)unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion yr adran hon;

(b)unrhyw berson sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd o dan y Rhan hon;

(c)unrhyw berson sy’n cynorthwyo—

(i)Gweinidogion Cymru, neu

(ii)person a grybwyllwyd ym mharagraff (a) neu (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 160 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I22A. 160 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)