RHAN 7DIOGELU

Oedolion sy’n wynebu risg

126Oedolion sy’n wynebu risg

1

Mae “oedolyn sy’n wynebu risg”, at ddibenion y Rhan hon, yn oedolyn—

a

sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso,

b

y mae arno anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un neu rai o’r anghenion hynny ai peidio), ac

c

nad yw’n gallu, o ganlyniad i’r anghenion hynny, amddiffyn ei hun rhag cael, neu’r risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso.

2

Os oes gan awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod person o fewn ei ardal (p’un a yw’n preswylio fel arfer yno ai peidio) yn oedolyn sy’n wynebu risg, rhaid iddo—

a

gwneud unrhyw ymholiadau (neu beri iddynt gael eu gwneud) y mae’n credu eu bod yn angenrheidiol i’w alluogi i benderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau (p’un ai o dan y Ddeddf hon neu fel arall) ac, os felly, pa gamau a chan bwy, a

b

penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau o’r fath.

3

Rhaid i reoliadau a wneir o dan adran 54(5) (cynlluniau gofal a chymorth) gynnwys darpariaeth ynghylch cofnodi mewn cynllun gofal a chymorth ganlyniadau ymholiadau a wneir o dan yr adran hon.

127Gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion

1

Caiff swyddog awdurdodedig wneud cais i ynad heddwch am orchymyn (“gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn”) mewn perthynas â pherson sy’n byw mewn unrhyw fangre o fewn ardal awdurdod lleol.

2

Dibenion gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn yw—

a

galluogi’r swyddog awdurdodedig ac unrhyw berson arall sydd gyda’r swyddog i gael sgwrs breifat gyda’r person yr amheuir ei fod yn oedolyn sy’n wynebu risg,

b

galluogi’r swyddog awdurdodedig i ganfod a yw’r person hwnnw’n gwneud penderfyniadau o’i wirfodd, ac

c

galluogi’r swyddog awdurdodedig i asesu’n iawn a yw’r person yn oedolyn sy’n wynebu risg ac i wneud penderfyniad fel sy’n ofynnol gan adran 126(2) ynghylch pa gamau, os o gwbl, y dylid eu cymryd.

3

Pan fo gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn mewn grym, caiff y swyddog awdurdodedig, cwnstabl ac unrhyw berson penodedig arall sydd gyda’r swyddog hwnnw yn unol â’r gorchymyn, fynd i mewn i’r fangre a bennir yn y gorchymyn at y dibenion a nodir yn is-adran (2).

4

Caiff yr ynad heddwch wneud gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn os yw wedi ei fodloni—

a

bod gan y swyddog awdurdodedig sail resymol dros amau bod y person yn oedolyn sy’n wynebu risg,

b

ei bod yn angenrheidiol i’r swyddog awdurdodedig gael gweld y person er mwyn asesu’n iawn a yw’r person hwnnw’n oedolyn sy’n wynebu risg a gwneud penderfyniad fel sy’n ofynnol gan adran 126(2) ynghylch pa gamau, os o gwbl, y dylid eu cymryd,

c

bod gwneud gorchymyn yn angenrheidiol er mwyn cyflawni’r dibenion a nodir yn is-adran (2), a

d

na fydd arfer y pŵer mynediad a roddir gan y gorchymyn yn peri i’r oedolyn fod mewn mwy o berygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso.

5

Rhaid i orchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn—

a

pennu’r fangre y mae’r gorchymyn yn ymwneud â hi;

b

darparu y caiff cwnstabl fod gyda’r swyddog awdurdodedig;

c

pennu’r cyfnod pryd y bydd y gorchymyn mewn grym.

6

Caniateir i amodau eraill gael eu gosod ar orchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn, er enghraifft—

a

pennu cyfyngiadau ar yr amser pan ganiateir i’r pŵer mynediad a roddir gan y gorchymyn gael ei arfer;

b

darparu i berson penodedig arall fod gyda’r swyddog awdurdodedig;

c

ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad am y gorchymyn gael ei roi i feddiannydd y fangre a’r person yr amheuir ei fod yn oedolyn sy’n wynebu risg.

7

Caiff cwnstabl sydd gyda’r swyddog awdurdodedig ddefnyddio grym rhesymol os yw’n angenrheidiol er mwyn cyflawni dibenion gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn fel a nodir yn is-adran (2).

8

Wrth fynd i mewn i’r fangre yn unol â gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn rhaid i’r swyddog awdurdodedig—

a

datgan diben yr ymweliad,

b

dangos tystiolaeth o’r awdurdodiad i fynd i mewn i’r fangre, ac

c

rhoi esboniad i feddiannydd y fangre am sut i gwyno ynghylch sut y mae’r pŵer mynediad wedi cael ei arfer.

9

Yn yr adran hon ystyr “swyddog awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi gan awdurdod lleol at ddibenion yr adran hon, ond caiff rheoliadau osod cyfyngiadau ar y personau neu’r categorïau o bersonau y caniateir eu hawdurdodi.

128Dyletswydd i hysbysu am oedolion sy’n wynebu risg

1

Os oes gan bartner perthnasol awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod person yn oedolyn sy’n wynebu risg, a’i bod yn ymddangos bod y person hwnnw o fewn ardal yr awdurdod, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod lleol am y ffaith honno.

2

Os yw’n ymddangos bod y person, y mae gan y partner perthnasol sail resymol dros gredu bod y person hwnnw yn oedolyn sy’n wynebu risg, o fewn ardal awdurdod lleol ac eithrio un y mae’n bartner perthnasol iddo, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod lleol arall hwnnw.

3

Os oes gan awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod person o fewn ei ardal ar unrhyw adeg yn oedolyn sy’n wynebu risg a’i fod yn byw neu’n bwriadu byw yn ardal awdurdod lleol arall (neu awdurdod lleol yn Lloegr), rhaid iddo hysbysu’r awdurdod arall hwnnw.

4

At ddiben yr adran hon mae partner perthnasol awdurdod lleol yn berson sy’n bartner perthnasol yr awdurdod at ddibenion adran 162.

129Diddymu pŵer awdurdod lleol i symud personau y mae arnynt angen gofal a sylw

Nid yw adran 47 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (sy’n galluogi awdurdodau lleol i wneud cais am orchymyn llys i symud personau y mae arnynt angen gofal a sylw o’u cartrefi i ysbytai neu fannau eraill) bellach yn gymwys i bersonau yng Nghymru.