xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CPLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Symud plant sy’n derbyn gofal i fyw y tu allan i’r awdurdodaethLL+C

124Trefniadau i helpu plant i fyw y tu allan i Loegr a ChymruLL+C

(1)Ni chaiff awdurdod lleol drefnu, neu helpu i drefnu, i blentyn yn ei ofal fyw y tu allan i Loegr a Chymru heb gymeradwyaeth y llys.

(2)Caiff awdurdod lleol, gyda chymeradwyaeth pob person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn drefnu, neu helpu i drefnu, i unrhyw blentyn arall sy’n derbyn gofal ganddo i fyw y tu allan i Loegr a Chymru.

(3)Ni chaiff y llys roi ei gymeradwyaeth i hyn o dan is-adran (1) oni chaiff ei fodloni—

(a)y byddai byw y tu allan i Loegr a Chymru er lles pennaf y plentyn,

(b)y gwnaed, neu y gwneir, trefniadau addas i dderbyn y plentyn a threfniadau addas er ei lesiant yn y wlad lle bydd yn byw,

(c)bod y plentyn wedi cydsynio i fyw yn y wlad honno, a

(d)bod pob person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn wedi cydsynio bod y plentyn yn byw yn y wlad honno.

(4)Pan fo’r llys wedi ei fodloni nad oes gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i gydsynio neu wrthod cydsynio, caiff anwybyddu is-adran (3)(c) a chymeradwyo os bydd y plentyn yn mynd i fyw yn y wlad sydd o dan sylw gyda rhiant, gwarcheidwad, gwarcheidwad arbennig, neu berson addas arall.

(5)Pan fo person y mae angen ei gydsyniad gan is-adran (3)(d) yn methu â chydsynio, caiff y llys hepgor cydsyniad y person hwnnw os yw wedi ei fodloni—

(a)nad oes modd dod o hyd i’r person neu nad oes gan y person alluedd i gydsynio, neu

(b)bod llesiant y plentyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r cydsyniad gael ei hepgor.

(6)Nid yw adran 85 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (sy’n gosod cyfyngiadau ar fynd â phlant allan o’r Deyrnas Unedig) yn gymwys yn achos plentyn a fydd yn byw y tu allan i Loegr a Chymru gyda chymeradwyaeth y llys a roddir o dan yr adran hon.

(7)Pan fydd llys yn penderfynu rhoi ei gydsyniad o dan yr adran hon, caiff orchymyn nad yw ei benderfyniad i gael effaith yn ystod y cyfnod apelio.

(8)Yn is-adran (7) ystyr “y cyfnod apelio” yw—

(a)lle y gwneir apêl yn erbyn y penderfyniad, y cyfnod rhwng gwneud y penderfyniad a dyfarnu ar yr apêl, a

(b)fel arall, y cyfnod pryd y caniateir apelio yn erbyn y penderfyniad.

F1(9) Nid yw’r adran hon yn gymwys i awdurdod lleol sy’n lleoli plentyn i’w fabwysiadu gyda darpar fabwysiadwyr.

Diwygiadau Testunol

F1A. 124(9): testyn wedi'i ddiwygio (27.4.2017) gan Deddf Plant a Gwaith Cymdeithasol 2017 (c. 16), a. 70(1)(a), Atod. 1 para. 13

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 124 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 124 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)