RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Marwolaeth plentyn sy’n derbyn gofal

I1I2125Marwolaeth plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol

1

Os yw plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn marw—

a

rhaid i’r awdurdod hysbysu Gweinidogion Cymru,

b

rhaid i’r awdurdod hysbysu, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, rieni’r plentyn a phob person nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn,

c

caiff yr awdurdod, gyda chydsyniad pob person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn (i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol i’w gael), drefnu i gorff y plentyn gael ei gladdu neu ei amlosgi, a

d

caiff yr awdurdod, os bodlonir yr amodau a grybwyllir yn is-adran (2), wneud taliadau i unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu unrhyw berthynas, gyfaill neu berson arall sy’n gysylltiedig â’r plentyn, mewn cysylltiad â theithio, cynhaliaeth neu dreuliau eraill a dynnir gan y person hwnnw wrth fod yn bresennol yn angladd y plentyn.

2

Dyma’r amodau—

a

ei bod yn ymddangos i’r awdurdod na fedrai’r person o dan sylw fod yn bresennol yn angladd y plentyn fel arall heb galedi ariannol gormodol, a

b

bod yr amgylchiadau yn cyfiawnhau gwneud y taliadau.

3

Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi amlosgi lle nad yw’n unol ag arfer argyhoeddiad crefyddol y plentyn.

4

Pan fo awdurdod lleol wedi arfer ei bŵer o dan is-adran (1)(c) mewn cysylltiad â phlentyn a oedd o dan 16 oed pan fu farw, caiff adennill oddi wrth unrhyw un o rieni’r plentyn unrhyw dreuliau a dynnwyd ganddo.

5

Gellir adennill yn ddiannod fel dyled sifil unrhyw symiau y mae modd eu hadennill yn y modd hwn, ond nid yw hynny’n effeithio ar unrhyw ddull arall o’u hadennill.

6

Nid oes dim yn yr adran hon sy’n effeithio ar unrhyw ddeddfiad sy’n rheoleiddio neu’n awdurdodi claddu, amlosgi neu gynnal archwiliad anatomegol o gorff y person ymadawedig.