RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA
Dyletswyddau lletya
75Dyletswydd gyffredinol awdurdod lleol i sicrhau digon o lety i blant sy’n derbyn gofal
1
Rhaid i awdurdod lleol gymryd camau sy’n sicrhau, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, ei fod yn gallu darparu i’r plant a grybwyllir yn is-adran (2) lety sydd—
a
o fewn ardal yr awdurdod, a
b
yn diwallu anghenion y plant hynny.
2
Y plant y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yw’r rhai—
a
y mae’r awdurdod lleol yn gofalu amdanynt,
b
nad yw’r awdurdod yn gallu gwneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy o dan adran 81(2), ac
c
y mae natur eu hamgylchiadau yn golygu y byddai’n gyson â llesiant y plant i lety sydd yn ardal yr awdurdod gael ei ddarparu iddynt.
3
Wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1), rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i fantais cael—
a
nifer o ddarparwyr llety yn ei ardal sydd, ym marn yr awdurdod, yn ddigon iddo gyflawni ei ddyletswydd, a
b
ystod o lety yn ei ardal a allai ddiwallu anghenion gwahanol ac sydd, ym marn yr awdurdod, yn ddigon iddo gyflawni ei ddyletswydd.
4
Yn yr adran hon ystyr “darparwyr llety” yw—
a
rhieni maeth awdurdod lleol, a
b
cartrefi plant.
76Llety i blant sydd heb rieni, neu blant sydd ar goll neu sydd wedi eu gadael etc
1
Rhaid i awdurdod lleol ddarparu llety i unrhyw blentyn yn ei ardal yr ymddengys i’r awdurdod bod angen llety arno oherwydd—
a
nad oes unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn,
b
bod y plentyn ar goll neu wedi cael ei adael, neu
c
bod y person sydd wedi bod yn gofalu am y plentyn yn cael ei atal (p’un ai yn barhaol ai peidio, ac am ba reswm bynnag) rhag darparu llety neu ofal addas i’r plentyn.
2
Pan fo awdurdod lleol yn darparu llety o dan is-adran (1) i blentyn sy’n preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol arall, caiff yr awdurdod lleol arall hwnnw gymryd drosodd y gwaith o ddarparu llety i’r plentyn o fewn—
a
tri mis o gael ei hysbysu’n ysgrifenedig bod llety’n cael ei ddarparu i’r plentyn, neu
b
unrhyw gyfnod hirach arall a bennir.
3
Rhaid i awdurdod lleol ddarparu llety i unrhyw blentyn yn ei ardal sydd wedi cyrraedd 16 oed ac y byddai llesiant y plentyn hwnnw, ym marn yr awdurdod, yn debygol o gael ei andwyo’n ddifrifol os na fyddai’r awdurdod yn darparu llety iddo.
4
Ni chaniateir i awdurdod lleol ddarparu llety o dan yr adran hon i unrhyw blentyn os bydd unrhyw berson yn gwrthwynebu a hwnnw—
a
yn berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, a
b
yn fodlon ac yn gallu—
i
darparu llety i’r plentyn, neu
ii
trefnu bod llety yn cael ei ddarparu i’r plentyn.
5
Caiff unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn symud y plentyn ar unrhyw adeg o lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol o dan yr adran hon.
6
Nid yw is-adrannau (4) a (5) yn gymwys tra bo unrhyw berson—
a
y mae gorchymyn preswylio o’i blaid ef mewn grym mewn cysylltiad â’r plentyn,
b
sy’n warcheidwad arbennig i’r plentyn, neu
c
sydd â gofal am y plentyn yn rhinwedd gorchymyn a wnaed wrth arfer awdurdodaeth gynhenid yr Uchel Lys mewn cysylltiad â phlant,
yn cytuno bod y plentyn yn derbyn gofal mewn llety a ddarperir gan, neu ar ran, yr awdurdod lleol.
7
Pan fo mwy nag un person o’r math a grybwyllwyd yn is-adran (6), rhaid i bob un ohonynt fod yn gytûn.
8
Nid yw is-adrannau (4) a (5) yn gymwys pan fo plentyn sydd wedi cyrraedd 16 oed yn cytuno bod llety’n cael ei ddarparu iddo o dan yr adran hon.
77Llety i blant sy’n cael eu hamddiffyn gan yr heddlu, neu sydd o dan gadwad neu ar remánd etc
1
Rhaid i awdurdod lleol wneud darpariaeth ar gyfer derbyn a rhoi llety i blant sy’n cael eu symud o’u cartrefi neu sy’n cael eu cadw oddi yno o dan Ran 5 o Ddeddf Plant 1989.
2
Rhaid i awdurdod lleol dderbyn plant, a darparu llety i blant—
a
sy’n cael eu hamddiffyn gan yr heddlu ac y gofynnir iddo eu derbyn o dan adran 46(3)(f) o Ddeddf Plant 1989;
b
y gofynnir iddo eu derbyn o dan adran 38(6) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984;
c
os yr awdurdod lleol yw’r awdurdod dynodedig mewn cysylltiad â hwy a bod y plant hynny—
i
wedi eu remandio i lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn rhinwedd paragraff 4 o Atodlen 1 neu baragraff 6 o Atodlen 8 i Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (torri etc gorchmynion atgyfeirio a gorchmynion gwneud iawn);
ii
wedi eu remandio i lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn rhinwedd paragraff 21 o Atodlen 2 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (torri etc gorchmynion adsefydlu ieuenctid);
iii
wedi eu remandio i lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn rhinwedd paragraff 10 o’r Atodlen i Ddeddf Troseddau Stryd 1959 (torri gorchmynion o dan adran 1(2A) o’r Ddeddf honno);
iv
yn destun gorchymyn adsefydlu ieuenctid sy’n gosod gofyniad preswylio awdurdod lleol neu yn destun gorchymyn adsefydlu ieuenctid â maethu.
3
Yn is-adran (2), mae gan y termau isod yr un ystyr â’r termau Saesneg cyfatebol yn Rhan 1 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (gweler adran 7 o’r Ddeddf honno)—
“gofyniad preswylio awdurdod lleol” (“local authority residence requirement”);
“gorchymyn adsefydlu ieuenctid” (“youth rehabilitation order”);
“gorchymyn adsefydlu ieuenctid â maethu” (“youth rehabilitation order with fostering”).
4
Mae is-adran (5) yn gymwys—
a
pan fo plentyn—
i
wedi ei symud o dan Ran 5 o Ddeddf Plant 1989, neu
ii
wedi ei gadw’n gaeth o dan adran 38 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, a
b
pan nad yw’r plentyn yn cael llety a ddarperir—
i
gan awdurdod lleol, neu
ii
mewn ysbyty a freiniwyd yng Ngweinidogion Cymru, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu’r Ysgrifennydd Gwladol, neu sydd fel arall wedi ei roi ar gael yn unol â threfniadau a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, Gweinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu grŵp comisiynu clinigol.
5
Gellir adennill unrhyw gostau rhesymol a dynnwyd wrth roi llety i’r plentyn oddi wrth yr awdurdod lleol y mae’r plentyn yn preswylio fel arfer yn ei ardal.